Rheilffordd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: hi:रेल (deleted)
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau)
delweddau
Llinell 1:
[[Delwedd:Blaenau Ffestiniog railway station 01.jpg|bawd|256px240px|Gorsaf reilffordd Blaenau Ffestiniog]]
 
Modd cludo nwyddau neu bobl ar gledrau yw '''rheilffordd'''; cledrau o haearn ers y ddeunawfed ganrif, er bod wagenau yn cael eu tynnu gan geffylau ar gledrau pren yn cael eu defnyddio ganrifoedd yn ôl. Daeth rheilffyrdd yn bwysig iawn i gludo [[glo]], [[haearn]] a nwyddau eraill yn ystod [[y Chwyldro Diwydiannol]].
 
Y [[peiriant stêm]] cyntaf i redeg ar gledrau oedd un [[Richard Trevithick]] ar [[12 Chwefror]] [[1804]]. Tynnodd cerbyd Trevithick ddeg tunnell o haearn a 70 o ddynion o waith haearn Penydarren Merthyr Tudful mor bell ag Abercynon, ond yr oedd yn rhy drwm ac felly ddim yn effeithiol iawn. Ni dderbyniwyd y syniad a bu farw yn fethdalwr. Y rheilffordd stêm lwyddiannus gyntaf oedd [[Rheilffordd Stockton and Darlington]]. Dilynwyd hon yn fuan gan [[Rheilffordd Lerpwl a Manceinion]] gyda pheiriant enwog o'r enw [[Rocket]] gan [[George Stephenson]]
[[Delwedd:Rail.diesel.wapleybridge.750pix.jpg|bawd|200px240px|RheilfforddTrên ymdiesel Mryste''First Great Western'' ger Bryste]]
Mae'r rheilffyrdd yn defnyddio ynni yn llawer mwy effeithlon nag unrhyw fodd o gludiad peirianyddol arall - [[car]], [[awyren]] neu [[llong]]. Mae trên yn defnyddio rhyw 50 - 70% yn llai o ynni i gludo pwysau penodedig o gymharu â thrafnidiaeth ffordd. Y prif rheswm dros hyn yw bod llai o [[ffrithiant]] rhwng olwynion a chledrau o gymharu â'r hyn a geir ar ffordd.Yn ogystal, mae arwynebedd blaen trên yn llai na'r hyn a geir ar gerbydau eraill, gan leihau'r [[gwrthiant aer]]. Mae'r effeithlonrwydd hwn yn golygu fod gan drafnidiaeth trên [[ôl troed ecolegol]] llai, ac yn gyfrannu llai at [[newid hinsawdd]], na thrafnidiaeth ffordd. Er hynny, fe all brisiau uchel arwain at siwrneau lle mae trên yn eithaf wag, gan leihau'r effeithlonrwydd.