Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 67:
| HDI_year =
}}
[[Ffederasiwn]] ymreolaethol dan [[y Goron Brydeinig]] yn [[De Affrica (rhanbarth)|neheudir Affrica]] oedd '''Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa''' ({{iaith-en|Federation of Rhodesia and Nyasaland}}) neu '''Ffederasiwn Canolbarth Affrica''' (''Central African Federation'') a oedd yn cyfuno gwladfa ymreolaethol [[De Rhodesia]] â [[protectoriaeth|phrotectoriaethau]] [[Gogledd Rhodesia]], a [[Gwlad Nyasa]]. Sefydlwyd y ffederasiwn ar 1 Awst 1953, a chanddi statws yn debyg i [[dominiwn|ddominiwn]] yn [[yr Ymerodraeth Brydeinig]], a daeth i ben ar 31 Rhagfyr 1963.
 
Ers y 1920au, bu setlwyr croenwyn yn Ne Rhodesia ac yng Ngogledd Rhodesia yn galw am uno'r ddwy diriogaeth er mwyn canoli grym y lleiafrifoedd Ewropeaidd. Gwrthwynebwyd yr ymdrechion hyn gan Swyddfa'r Trefedigaethau, wrth i'r awdurdodau geisio ymateb yn dringar i bryderon yr Affricanwyr croenddu. Wedi'r [[Ail Ryfel Byd]], tyfodd yr economi o ganlyniad i ddiwydiannau eilradd yn Ne Rhodesia a'r diwydiant copr yng Ngogledd Rhodesia, a chynyddodd y niferoedd o fewnfudwyr croenwyn yn sylweddol. Dechreuodd gwleidyddion a diwydianwyr croenwyn ymgyrchu o ddifri dros integreiddio Rhodesia gyfan er mwyn elwa ar farchnadoedd mawr a llafurlu o weithwyr croenddu, gan gynnwys Gwlad Nyasa. Llwyddasant ddwyn perswâd ar [[llywodraeth y Deyrnas Unedig|lywodraeth y Deyrnas Unedig]], a oedd yn bwriadu creu gwladwriaeth amlhiliol i wrthsefyll trefn [[apartheid]] yn [[De Affrica|Ne Affrica]]. Gwrthwynebwyd y ffederasiwn gan bobl dduon yng Ngogledd Rhodesia a Gwlad Nyasa, am iddynt ofni y byddai poblogaeth groenwen De Rhodesia yn rheoli'r llywodraeth.<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/place/Federation-of-Rhodesia-and-Nyasaland |teitl=Federation of Rhodesia and Nyasaland |dyddiadcyrchiad=15 Awst 2020 }}</ref>