Hen Oes y Cerrig yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Mammoth.png|200px|bawd|Mammoth]]
Mae cyfnod '''Oes yr Hen Gerrig yng Nghymru''' yn cynnwys hanes bodolaeth pobl yn y tir a elwir [[Cymru]] heddiw o'r cyfnod boreuaf hyd at tua [[9000 CC]]. Enw arall ar [[Oes yr Hen Gerrig]] yw'r '''Paleolithig'''. Ni wyddom i sicrwydd os bu pobl yn byw yng Nghymru yn y cyfnodau cynnes rhwng y gyfres o [[Oes yr Iâ|Oesoedd Iâ]] a gafwyd yn [[Ewrop]] gan fod y rhew wedi gorchuddio'r tir a dinistrio tystiolaeth bosibl ac eithrio yn achos rhimyn gul o dir ar arfordir y de. Ond mae'n bur bosibl fod ambell grŵp o bobl wedi croesi'r pont tir sych i hela ar y gwastadeddau gwelltog a adewid ar ôl y rhew yn y cyfnodau cynnes, efallai mor gynnar a 200,000-100,000 CC. Yn [[Ogof BontnewyddPontnewydd]] yn nyffryn [[Afon Elwy]] yn [[Sir Ddinbych]] cafwyd hyd i ddannedd a darn o ên yn perthyn i ffurf gynnar o [[Dyn Neanderthal|Ddyn Neanderthal]] oedd yn byw rhwng 230,000 a 180,000 o flynyddoedd yn ôl.
 
Mae ein gwybodaeth yn dibynnu ar dystiolaeth [[archaeoleg]]ol o'r [[ogof]]âu a breswylid gan bobl paleolithig. Daw'r darganfyddiadu cynharaf ar ddiwedd Oes yr Hen Gerrig o ogofâu [[calchfaen]] yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Gellir cymharu'r offer [[callestr]] o'r cyfnod hwnnw gydag offer cyffelyb sy'n perthyn i [[diwylliant Aurignac|ddiwylliant Aurignac]] (a elwir ar ôl ogofâu ger [[Aurignac]], de [[Ffrainc]]).