Pensaernïaeth yr Adfywiad Romanésg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 8:
== Yr Adfywiad Romanésg neu'r Adfywiad Normanaidd ym Mhrydain ac Iwerddon ==
[[Delwedd:Culzean_Castle_2013-09-03_17-15-37.jpg|bawd| Castell Culzean gan Robert Adam, 1771 ]]
Digwyddodd arddull
Ar y pwynt hwn, daeth yr Adfywiad Normanaidd yn arddull bensaernïol adnabyddadwy. Yn 1817, cyhoeddodd Thomas Rickman ''An Attempt to Discriminate the Styles of English Architecture from the Conquest To the Reformation''. Sylweddolwyd erbyn hyn fod 'pensaernïaeth bwa crwn' yn Romanésg ym Mhrydain i raddau helaeth a daethpwyd i'w ddisgrifio fel arddull Normanaidd yn hytrach nag un Sacsonaidd.<ref>This distinction was finally recognised when Rickman's article in the ''Archaeologia'' (1837), published by the [[Society of Antiquaries of London|Society of Antiquaries]].</ref> Gellir gweld dechrau'r Adfywiad Normanaidd "archeolegol gywir" ym mhensaernïaeth Thomas Hopper. Roedd ei ymgais gyntaf ar ddefnyddio'r arddull hon yng Nghastell Gosford yn Armagh yn Iwerddon, ond bu'n llawer mwy llwyddiannus gyda [[Castell Penrhyn|Chastell Penrhyn]] ger Bangor yng Nghymru. Adeiladwyd hwn ar gyfer y teulu [[Richard_Pennant,_Barwn_1af_Penrhyn|Pennant]], rhwng 1820 a 1837. Ni ddaeth yr arddull yn boblogaidd ar gyfer adeiladau domestig, er cafodd llawer o blastai a ffug gestyll eu hadeiladu yn yr arddull Castell Gothig neu Gestyllog yn ystod y cyfnod Fictoraidd, a oedd yn arddull Gothig gymysg.<ref>[[Mowl, Timothy]] (1991) ‘‘Penrhryn and the Norman Revival’’ in "National Trust Guide", ''Penrhryn Castle, Gwynedd''. pp.89–90.</ref>
Fodd bynnag, daeth
Mae'r arddull Romanésg a fabwysiadwyd gan Penson yn cyferbynnu a Romanésg Eidalaidd penseiri eraill fel Thomas Henry Wyatt, a ddyluniodd Eglwys y Santes Fair a Sant Nicholas yn yr arddull hon yn [[Wilton, Wiltshire|Wilton]] ac a adeiladwyd rhwng 1841 a 1844 ar gyfer Iarlles Dowager Penfro a'i mab, Arglwydd Herbert o Lea. <ref>{{Cite web|url=http://history.wiltshire.gov.uk/community/getchurch.php?id=608|title=Wiltshire Community History|publisher=Wiltshire Council}}</ref> Yn ystod y 19eg ganrif, roedd y bensaernïaeth a ddewiswyd ar gyfer eglwysi Anglicanaidd yn dibynnu ar eglwysiaeth cynulleidfaoedd penodol. Tra codwyd eglwysi uchel ac [[Anglo-Gatholigiaeth|Eingl-Gatholig]], a gafodd eu dylanwadu gan Fudiad Rhydychen, ym [[Yr Adfywiad Gothig|mhensaernïaeth yr Adfywiad Gothig]], roedd eglwysi isel ac eglwysi llydan y cyfnod yn aml yn cael eu hadeiladu yn null yr Adfywiad Romanésg. Gwelir rhai o'r enghreifftiau diweddarach o'r bensaernïaeth Adfywiad Romanésg hon mewn eglwysi a chapeli Anghydffurfiol neu Ymneilltuol. Enghraifft dda o hyn yw gan y penseiri Drury a Mortimer o Lincon a ddyluniodd Gapel Bedyddwyr Mint Lane yn Lincoln mewn arddull adfywiad Romanésg Eidalaidd ddarostyngedig ym 1870. <ref>Antram N (revised), Pevsner N & Harris J, (1989), ''The Buildings of England: Lincolnshire'', Yale University Press.pg 521–22.</ref> Ar ôl tua 1870 diflanodd yr arddull hon o bensaernïaeth Eglwysig ym Mhrydain, ond yn gynnar yn yr 20fed ganrif, cafodd yr arddull ei olynu gan bensaernïaeth yr Adfywiad Bysantaidd . <gallery mode="packed">
|