Sarn Helen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Defnyddir yr enw '''Sarn Helen''', neu weithiau '''Sarn Elen''' am y [[Ffyrdd Rhufeinig Cymru|ffordd Rufeinig]] oedd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol [[Cymru]] o gaer ''Canovium'' ([[Caerhun]]) yn y gogledd hyd gaer a thref ''Maridunum'' ([[Caerfyrddin]] yn y de. Credir fod yr enw yn dod o enw [[Elen Luyddog]], gwraig [[Macsen Wledig]] yn ôl y chwedl.
Nid oes olion i'w gweld o ran gyntaf y ffordd ar ôl
Credir ei bod wedi dilyn llinell y ffordd bresennol heibio [[Trawsfynydd]]. Er nad oes olion, credir ei bod wedi cadw at ochr ddwyreiniol [[Cader Idris]] nes cyrraedd caer fechan [[Pennal]]. Nid oes sicrwydd lle'n union yr oedd cwrs y ffordd i'r de o Bennal, ond gellir gweld rhan ohoni ger pentref [[Lledrod]] yn [[Sir Aberteifi]], ar ei ffordd tua'r gaer yn [[Llanio]]. Yn [[Llanfair Clydogau]] mae'n fforchio, gydag un fforch yn arwain i'r dwyrain tua [[Llanymddyfri]] a [[Dolaucothi]], lle gellir gweld olion, a'r llall yn mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.
|