Crogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) |
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 27:
Crogwyd [[Dic Penderyn]], neu Richard Lewis, un o arweinyddion [[Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful|Gwrthryfel y Gweithwyr ym Merthyr]] ym Mehefin 1831, y tu allan i furiau Carchar [[Caerdydd]] yn Awst 1831 am iddo drywanu milwr o’r enw Donald Black adeg y Terfysg. Cyfaddefodd Ieuan Parker, flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd ar ei wely angau draw yn America, mai ef oedd wedi trywanu’r milwr. Plediodd Dic Penderyn ei fod yn ddi-euog cyn iddo gael ei grogi, ac oherwydd hynny daeth yn [[Merthyr|ferthyr]] cyntaf y dosbarth gweithiol yng Nghymru.<ref>{{Cite web|title=Sut oedd crwydriaid yn cael eu trin yn oes y Tuduriaid - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision|url=https://www.bbc.co.uk/bitesize/guides/zt6gh39/revision/1|website=BBC Bitesize|access-date=2020-04-15|language=en-GB}}</ref>
Roedd crocbren parhaol neu un dros dro gan y mwyafrif o drefi Cymru ar gyfer dienyddio cyhoeddus. Yng Nghaerdydd dyma’r rheswm y tu ôl i enw ardal sy’n cael ei galw heddiw yn Gyffordd Marwolaeth ar dop croesffordd City Road (''Plwca Alai'' oedd yr enw Cymraeg ar lafar
Cyn 1870 roedd y rhai a gafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth naill ai’n cael eu cosbi drwy grogi neu dorri'r pen, ac wedyn byddent yn cael eu diberfeddu a'u pedrannu. Byddai pennau pobl aristocrataidd yn cael eu torri gyda bwyell, fel y digwyddodd yn nienyddiad cyfnither [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|Elisabeth I]], sef [[Mari, brenhines yr Alban]] yn 1587. Roedd y fwyell i fod sicrhau toriad mwy sydyn a glân i’r pen, ac felly llai o ddioddefaint i’r unigolyn.<ref name=":2" />
|