Crogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Gwrthdroi â llaw
Llinell 28:
 
Roedd crocbren parhaol neu un dros dro gan y mwyafrif o drefi Cymru ar gyfer dienyddio cyhoeddus. Yng Nghaerdydd dyma’r rheswm y tu ôl i enw ardal sy’n cael ei galw heddiw yn Gyffordd Marwolaeth ar dop croesffordd City Road (''Plwca Alai'' oedd yr enw Cymraeg ar lafar) a Heol y Crwys. Byddai troseddwyr yn cael eu gorfodi i gerdded o Garchar y Castell draw at y crocbren yn y lle hwn a elwyd yn ''Plwca Halog'' (ysytyr plwca yw darn o dir gwlyb, diwerth heb ei drin ac halog yw brwnt).<ref>https://www.british-history.ac.uk/cardiff-records/vol5/pp316-331</ref> Cafodd troseddwr ifanc ei grogi ar y twyni tywod y tu allan i Garchar Abertawe yn 1866, a chrogwyd troseddwyr yn gyhoeddus yng [[Caernarfon|Nghaernarfon]] yn y tŵr crogi oedd yn rhan o furiau’r dref.<ref name=":2">{{Cite web|title=Defnyddio’r gosb eithaf yn gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision|url=https://www.bbc.co.uk/bitesize/guides/zt6gh39/revision/2|website=BBC Bitesize|access-date=2020-04-15|language=en-GB}}</ref>
[[Delwedd:Mahmood Hussein Mattan.jpg|de||bawd|200px|Mahmood Hussein Mattan y person olaf i'w grogi yng Nghymru]]
 
Cyn 1870 roedd y rhai a gafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth naill ai’n cael eu cosbi drwy grogi neu dorri'r pen, ac wedyn byddent yn cael eu diberfeddu a'u pedrannu. Byddai pennau pobl aristocrataidd yn cael eu torri gyda bwyell, fel y digwyddodd yn nienyddiad cyfnither [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|Elisabeth I]], sef [[Mari, brenhines yr Alban]] yn 1587. Roedd y fwyell i fod sicrhau toriad mwy sydyn a glân i’r pen, ac felly llai o ddioddefaint i’r unigolyn.<ref name=":2" />