Groeg yr Henfyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: clean up
fideo byr
Llinell 3:
 
Cyfnod o [[hanes Groeg]] a barodd am dua mileniwm, hyd at ehangiad [[Cristnogaeth]], oedd '''Groeg yr Henfyd''' (neu '''Hen Roeg'''). Fe'i ystyrir gan lawer i fod yn un o sylfeini [[Gwareiddiad y Gorllewin]]. Roedd diwylliant Groeg yn ddylanwad cryf ar yr [[Ymerodraeth Rufeinig]], a thrwy hynny wedi dylanwadu diwylliant sawl rhan o [[Ewrop]]. Gwelir ei holion o hyd mewn meysydd megis [[iaith]], [[gwleidyddiaeth]], [[athroniaeth]], [[addysg]], [[gwyddoniaeth]] a'r [[celfyddydau]]. Bu'n rhan o ysbrydoliaeth y [[Dadeni]] yng Ngorllewin Ewrop, ac fe ysbrydolodd sawl ddiwygiad [[Newydd-glasuriaeth|newydd-glasurol]] yn y [[18fed ganrif|ddeunawfed]] a'r [[19eg ganrif|bedwaredd ganrif ar bymtheg]].
[[File:Bahnbrechende Entdeckungen der Antike (CC BY 4.0) cy.webm|bawd|Fideo byr o rai o ddyfeisiadau Groeg yr Henfyd]]
 
Defnyddir y term '''Groeg yr Henfyd''' hefyd i ddisgrifio parth hynafol yr [[iaith Roeg]]. Cyfeiria felly at ardaloedd a wladychwyd gan Roegwyr: [[Cyprus]], ynysoedd ac arfordir ddwyreiniol (a gelwir pryd hynny yn [[Ionia]]) y [[Môr Aegeaidd]], [[Sisili]] a ddeheubarth yr [[Eidal]] (a gelwir pryd hynny yn [[Magna Graecia]]), a threfedigaethau ar wasgar ar arfordiroedd [[Colchis]], [[Illyria]], [[Thrace]], yr [[Aifft]], [[Cyrenaica]], deheubarth [[Gâl]], rhan ddwyreiniol gorynys [[Iberia]], Iberia'r [[Cawcasws]] a [[Taurica]].