Siarlymaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B nodyn Ymerodron Glân Rhufeinig
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 10:
 
Roedd Siarlymaen yn fab hynaf [[Pippin III]], y brenin [[Carolingiaid|Carolingaidd]] cyntaf. Ar ôl i Pippin farw roedd Siarlymaen yn rheoli un rhan o'r deyrnas a'i frawd, [[Carloman]], y llall. Wedi marwolaeth Carloman ym [[771]] daeth Siarlymaen yn rheolwr ar y deyrnas gyfan.
[[File:Die Aachener Kaiserpfalz (CC BY-SA 4.0) cy.webm|bawd|chwith|Fideo byr ar blasty'r Siarlymaen yn [[Aachen]]]]
 
Oherwydd i Siarlymaen gytuno i'w dad Pippin y byddai'n rhoi tir i'r [[Eglwys Gatholig|eglwys]], roedd y berthynas rhwng Siarlymaen a'r [[Pab]] yn dda iawn. Daeth [[Irene (ymerodres)|Irene]] yn ymerodres [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]] yn [[797]], ond nid oedd yn cael ei chydnabod gan y Pab, nad oedd yn barod i dderbyn merch fel rheolwr. Coronodd [[Pab Leo III]] Siarlymaen i fod yn ymerawdwr tra y bu'n aros yn [[Rhufain]] ar ddydd [[Nadolig]] y flwyddyn [[800]]. Siarlymaen oedd y rheolwr cyntaf yng ngorllewin [[Ewrop]] i ddefnyddio'r teitl yma ers cwymp [[Romulus Augustulus]] ym [[476]]. Wrth gwrs, nid oedd yr yn croesawu'r ymerawdwr gorllewinol newydd.