Saltburn-by-the-Sea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
 
==Hanes==
Cyn y 1860au nid oedd Saltburn fawr mwy na phentrefan. Fodd bynnag, ym 1858 cafodd [[Henry Pease (AS)|Henry Pease]], datblygwr rheilffordd a gwleidydd, y syniad o greu tref gyrchfan ar y clogwyni gyda gerddi cyhoeddus yn y dyffryn islaw. Trefnwyd strydoedd ar gynllun grid gyda chymaint o dai â phosib â golygfeydd o'r môr. Un o'r gwestai rheilffordd cyntaf yn y byd oedd y Zetland Hotel, clamp o adeilad a agorwyd ym 1863. Agorwyd Pier Saltburn ym 1867. [[Lifft Clogwyn Saltburn]], a agorwyd ym 1884, yw'r [[rheilffordd ffwniciwlar]] hynaf yn y Deyrnas Unedig sy'n cael ei gyrru gan ddŵr.
 
<gallery heights="160px" mode=packed>