Tai crefydd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 46:
 
{{Prif|Tai Benedictaidd Cymru}}
Sefydlwyd nifer o dai crefydd [[Urdd Sant Bened|Benedictaidd]] yng Nghymru. [[Priordy Cas-gwent]], a sefydlwyd tua [[1072]] gan [[William fitzOsbern]] a'i fab [[Roger de Breteuil, 2il Iarll Henffordd]], oedd y cyntaf o'r tai yn perthyn i un o'r urddau Ewropeaidd i'w sefydlu yng Nghymru. Ymhlith y gweddill roedd [[Eglwys gadeiriol Aberhonddu|Priordy Aberhonddu]], [[Priordy Ewenni]] a [[Priordy y Fenni|Phriordy y Fenni]].
 
Roedd pob un o'r tai Benedictaidd yng Nghymru yn y de, a phob un wedi ei sefydlu gan arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]], er i'r [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] ail-sefydlu Aberteifi wedi gyrru'r mynachod estron ymaith. Roedd nifer ohonynt wedi eu rhoi yn eiddo i abatai yn Ffrainc, a phan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc yn ddiweddarach, dioddefodd priordai megis [[Priordy Allteuryn|Allteuryn]] a [[Priordy Penfro|Phenfro]] oherwydd eu bod yn eiddo i abatai Ffrengig.
 
==Eraill==
Yn [[Sir Benfro]], ceir tri thŷ yn perthyn i [[Urdd Tiron]], sef [[Abaty Llandudoch]], [[Priordy Pyll]] a [[Priordy Ynys Bŷr|Phriordy Ynys Bŷr]]. Roedd [[Abaty Talyllychau]] yn un o dai y [[Premonstratensiaid]], yr unig un yng Nghymru. Yn Ninbych roedd [[Brodordy Dinbych]] yn perthyn i urdd y [[Carmeliaid]].
 
==Diddymu'r Mynachlogydd==