Coluccio Salutati: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 7:
Gweithiodd Salutati am gyfnod yn notari preifat ar gyrion Fflorens, ac enillodd brofiad o weinyddiaeth ddinesig. Fe'i penodwyd ym 1367 yn Ganghellor Todi, cymuned i ogledd [[Rhufain]], am chwe mis. Wedi hynny, aeth i Rufain a chynorthwyodd un o ysgrifenyddion [[Llys y Pab]], o bosib ei gyfaill [[Francesco Bruni]], o 1368 i 1370. Ym 1370 fe'i penodwyd yn Ganghellor [[Gweriniaeth Lucca]], a bu yn y swydd honno nes 1372.<ref name=Witt>Ronald G. Witt, "Coluccio Salutati, Chancellor and Citizen of Lucca (1370–1372)", ''Traditio'', cyfrol 25 (1969), tt. 191–216., doi:10.1017/S0362152900010965.</ref>
 
Symudodd i Fflorens ym 1374 i weithio yng ngweinyddiaeth y weriniaeth, yn oruchwyliwr etholiadol. Ym 1375 dewiswyd Salutati yn arweinydd y ''signorie'' (arglwyddi) ac felly yn Ganghellor Fflorens, a bu yn y swydd honno am weddill ei oes, 31 mlynedd. Defnyddiodd Salutati ddylawadddylanwad ei swydd i hyrwyddo dyneiddiaeth y Dadeni a rhodd ei nawddogaeth i ysgolheigion ifainc, yn eu plith [[Leonardo Bruni]], [[Poggio Bracciolini]], [[Pier Paolo Vergerio]], ac [[Antonio Loschi]]. Manteisiodd ar ei ohebiaeth ddiplomyddol i gysylltu rhwydwaith o wŷr hyddysg ar draws yr Eidal i lythyru ar bynciau'r clasuron. Er na lwyddodd Salutati ei hun i feistroli'r iaith Roeg, fe bwysleisiodd yr angen i ddyneiddwyr astudio [[llenyddiaeth Hen Roeg]] yn ogystal â'r awduron Rhufeinig, a gwahoddodd yr ysgolhaig [[Manuel Chrysoloras]] i Fflorens ym 1396.<ref name=Nauert/>
 
Bu farw Coluccio Salutati yn Fflorens ar 4 Mai 1406 yn 75 oed.<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Coluccio-Salutati |teitl=Coluccio Salutati |dyddiadcyrchiad=31 Awst 2020 }}</ref>