Llynnoedd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Yn ailgyfeirio at Rhestr llynnoedd Cymru
 
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Rhai agweddau o lynnoedd yng Nghymru; angen ehangu!
Tagiau: Tynnu ailgyfeiriad
Llinell 1:
Ceir bron i 3,000 o lynnoedd yng Nghymru ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ganlyniad i [[rhewlif|rewlifau]].<ref>[https://www.britannica.com/place/Wales britannica.com;] adalwyd 3 Medi 2020.</ref>
#AIL-CYFEIRIO [[Rhestr llynnoedd Cymru]]
 
Oherwydd pwysigrwydd y llynnoedd, o ran natur a bywyd gwyllt, mae llawer ohonynt wedi cael eu dynodi'n [[Ardaloedd Cadwraeth Arbennig]] dan rwydwaith Natura 2000 o safleoedd bywyd gwyllt gwarchodedig [[Ewrop]]eaidd. Cant eu gwarchod gan [[Cyfoeth Naturiol Cymru]], sydd hefyd yn gyfrifol am lendid yr afonydd ac am arolygu'r broses o gyflenwi dŵr yfed i drigolion Cymru. Ceisir diogelu rhywogaethau adnabyddus fel yr [[Eog]] a'r [[Dyfrgi]] a rhywogaethau llai adnabyddus fel y [[llysywen bendoll]] a misglen berlog yr afon.
 
==Allforio dŵr i Loegr==
Mae'r rhan fwyaf o lynnoedd a chronfeydd yn darparu dŵr i drigolion Cymru. Mae rhai llynnoedd yn cyflenwi dŵr i Loegr, ac wedi eu creu'n un pwrpas ar gyfer hynny. Yn y [[1070au]] bu'n rhaid i 70 o bobl adael [[Capel Celyn]] cyn boddi'r cwm a chodi argael i greu [[Llyn Celyn]] er mwyn cyflenwi dŵr i Lerpwl. Boddwyd sawl cwm yn y canolbarth hefyd, wedi i [[Birmingham Corporation]] droi dros gant o bobl o'u ffermydd a'u tyddynod er mwyn creu llynnoedd a elwir heddiw yn 'Lynnoedd Cwm Elan'.<ref name="supply of water to England">{{cite web |title=UK heatwave: How much water does Wales pump to England? |url=https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-44966131 |website=bbc.co.uk |publisher=BBC |accessdate=2 September 2020}}</ref><ref>{{cite web |title=Elan Valley reservoirs |url=https://www.peoplescollection.wales/content/reservoirs-wales |website=People's Collection of Wales |accessdate=2 September 2020}}</ref> Mae gan Gymru ei chwmni darparu dŵr ei hun: Dŵr Cymru, ond mae dau gwmni o Loegr hefyd wedi cael yr hawl dan drwydded i dynnu dŵr i ddarparu cyflenwad i Loegr: Severn Trent Water a United Utilities.
 
Y prif lynnoedd sy'n darparu dŵr i Loegr yw:
 
* [[Llyn Fyrnwy]], Powys: adeiladwyd yn y [[1870au]] gan Liverpool Corporation; heddiw mae Severn Trent Water yn cymeryd 252 million litr y dydd i gyflenwi dŵr glân (dŵr yfed) i [[Lerpwl]] a [[Swydd Gaer]], ac ar adegau pan fo angen hynny - i [[Manceinion|Fanceinion]].
 
* [[Argaeau Dyffryn Elan]] - adeiladwyd gan 'Birmingham Corporation Water Department'. Heddiw mae gan Severn Trent yr hawl i gyflenwi dŵr oddi yno i [[Birmingham]], o bum llyn:
 
**[[Claerwen]]
**[[Craig-goch]]
**[[Pen-y-garreg]]
**[[Garreg-ddu]], a
**[[Caban-coch]]<ref>{{cite web|url=http://history.powys.org.uk/history/rhayader/elanmenu.html |title=Powys Digital History Project: Elan Valley Reservoirs|accessdate=9 May 2012}}</ref>
 
* [[Llyn Alwen]], [[Sir Ddinbych]], a adeiladwyd yn y [[1920au]] i gyflenwi dŵr i [[Birkenhead]], Lloegr.<ref>{{cite web |title=Future capacity to supply' |url=https://www.whatdotheyknow.com/request/425168/response/1029450/attach/html/3/river%20dee%20regulation%20leaflet.pdf.html |website=What Do They Know? |publisher=What Do They Know? |accessdate=2 September 2020}}</ref> Llifa Llyn Alwen i Afon Ddyfrdwy, sy'n ymweld â Lloegr ar ei thaith, am filltir neu ddwy. Mae United Utilities yn echdynnu 616 miliwn litr o ddŵr y dydd o gored yng Nghaer (''Chester weir'') ac oddi yno drwy bibelli i Ganolbarth Lloegr.
 
* [[Llyn Brenig]] - fel yr uchod; mae'n llifo i Afon Dyfrdwy ac ymlaen i Gaer.
 
* [[Llyn Celyn]] (Tryweryn) a [[Llyn Tegid]] -- fel yr uchod; mae'n llifo i Afon Dyfrdwy ac ymlaen i Gaer.
 
==Traddodiadau'n ymwneud â llynnoedd==
Mae llynnoedd yng Nghymru, yn ogystal a'r môr, afonydd a ffynhonnau, yn gyforiog o goelion a straeon gwerin - atgof niwlog am hen draddodiadau a defodau cyn-Gristnogol Celtaidd. Roedd dŵr yn elfen holl bwysig ym mywydau pobol; yn rhan mor hanfodol o drefn natur ac eto'n llawn gwrthgyferbyniadau – yn ffynhonnell bywyd a bwyd, yn iachau a phuro, ond hefyd yn chwalu a lladd. Gallai fod yn dryloyw ac eto'n llawn dirgelwch yn nyfnder anweladwy llyn, môr neu bwll a phan yn llonydd yn adlewyrchu goleuni duw'r haul a llun y sawl a edrychai iddo.
 
Yng Nghymru canfyddwyd celc o waith metel yn Llyn Mawr, Morgannwg, yn dyddio o tua 600CC. Yn eu mysg roedd addurniadau harnais a cherbyd ceffyl; bwyelli, crymannau a dau grochan efydd – rhai ohonynt yn arddull addurniadol Hallstat, oedd yn blaenori'r [[La Ténne]]. Yn [[Llyn Cerrig Bach]] ym Môn cafwyd casgliad o arfau, crochannau, cadwen gaethweision a darnau o gerbyd rhyfel, oll wedi eu haberthu rhwng yr ail ganrif CC a'r ganrif gynta OC.
 
Parhaodd y cof am aberthu i lynnoedd yn hir iawn ac mae straeon gwerin yn gyffredin am anghenfil sy'n preswylio yn y dyfnder dyfrllyd ac yn mynnu aberth blynyddol – merch ifanc fel arfer – neu bydd yn gadael y llyn ac anrheithio'r wlad oddiamgylch. Ond wrth lwc, fel arfer, fe ddaw arwr i ymladd a difa'r anghenfil ac achub y ferch!
 
Un o'r enghreifftiau enwocaf o anghenfil o'r fath, pe cai ferch ifanc neu beidio(!), oedd yr [[Afanc]] a cheir sawl fersiwn o'r stori am y peth erchyll hwn. Yn Nyffryn Conwy, lle y llechai mewn pwll mawr yn yr afon Conwy – [[Llyn yr Afanc]] ger [[Betws y Coed]] – fe achosai orlifoedd enbyd yn y dyffryn bob hyn a hyn. Ond llwyddwyd i'w raffu a'i lusgo gan yr Ychain Bannog i Lyn Cwm Ffynnon yng nghesail y Glyder Fawr, ple na allai wneud cymaint o ddifrod. Yn [[Llyn Syfaddon]] ger [[Aberhonddu]], Hu Gadarn a'i haliodd o'r llyn, tra yn [[Llyn Barfog]] ger [[Aberdyfi]] y Brenin Arthur a'i farch fu'n gyfrifol.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Llynnoedd Cymru]]