Luigi Pulci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
[[Bardd]] [[Eidalwyr|Eidalaidd]] yn yr iaith [[Eidaleg]] oedd '''Luigi Pulci''' ([[15 Awst]] [[1432]] – [[11 Tachwedd]] [[1484]]) sy'n nodedig am ei [[arwrgerdd]] ddifrif-ddigrif ''Morgante'' (1483), un o'r enghreifftiau gwychaf o farddoniaeth epig yn holl [[llenyddiaeth y Dadeni|lenyddiaeth y Dadeni]].
 
== Bywgraffiad ==
Ganwyd i deulu o lenorion tlawd yn [[Fflorens]]. Bu Luigi dan nawdd teulu'r [[Medici]], ac yn gyfaill i'r ysgolhaig a bardd [[Poliziano]], un arall o wŷr [[Lorenzo de' Medici|Lorenzo Odidog]]. Yn ddiweddarach, penodwyd Pulci i sawl llysgenhadaeth ar gais Lorenzo pan oedd yr hwnnw yn Arglwydd Fflorens. Er ei weithgareddau llenyddol a diplomyddol, ni lwyddodd Pulci i wella'i safle ariannol, a thua 38 oed fe ymunodd â byddin y ''condottiere'' Roberto Sanseverino. Bu'n [[hurfilwr]] yng nghwmni Sanseverino nes iddo farw o afiechyd yn [[Padova]], [[Gweriniaeth Fenis]], yn 52 oed.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Luigi-Pulci |teitl=Luigi Pulci |dyddiadcyrchiad=17 Mehefin 2019 }}</ref>
Ganed Luigi Pulci ar 15 Awst 1432 i deulu llenyddol yn [[Fflorens]]. Er gwaethaf achau bonheddig ei deulu, tlodion oeddynt a gwaethygodd eu sefyllfa yn sgil marwolaeth ei dad ym 1451. Gweithiodd Luigi yn glerc ac yn llyfrifwr er mwyn cynnal ei fam a'i frodyr a chwiorydd. Priododd Luigi â Lucrezia degli Albizzi ym 1453 a chawsant bedwar mab.<ref name=EWB>{{eicon en}} "[https://www.encyclopedia.com/people/literature-and-arts/italian-literature-biographies/luigi-pulci Luigi Pulci]" yn ''Encyclopedia of World Biography''. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 4 Medi 2020.</ref>
 
Cyflwynwyd Pulci i deulu'r [[Medici]] ym 1461, ac enillodd nawdd [[Cosimo de' Medici]], Arglwydd Fflorens, am ei ffraethineb a'i ysgrifeniadau addawol. Magodd gyfeillgarwch agos â [[Lorenzo de' Medici|Lorenzo]], ŵyr hynaf Cosimo, a daeth i adnabod dynion ifainc eraill yng nghylch Lorenzo, gan gynnwys yr ysgolhaig a bardd [[Angelo Poliziano]]. Bu Pulci hefyd yn ffraeo ag ambell un o wŷr llenyddol Fflorens, yn enwedig yr offeiriad Matteo Franco. Ysgrifennai'r ddau fardd gyfres o [[soned]]au chwyrn yn ymosod ar ei gilydd ym 1474–5, er yr oeddynt ar un pryd yn gyfeillion. Gelyn arall oedd yr athronydd neo-Blatonaidd [[Marsilio Ficino]], a oedd yn anghytuno â Pulci ar bynciau hud a lledrith.<ref name=EWB/>
Mae ei gampwaith, ''Morgante'', yn cyfuno deunydd o [[rhamant|ramantau]]'r Ffrancod a themâu [[sifalri]] gyda golygfeydd doniol a [[bwrlésg]] sy'n adlewyrchu bywyd y stryd ac hwyliau'r werin yn Fflorens. Â'r bardd ar grwydr yn aml i fynegi, mewn arddull aruchel, ei ansicrwydd moesol a'i bryderon crefyddol, ac i fyfyrio ar bynciau anianol. Cyfansoddai'r y gerdd hon ar fesur ''ottava rima'', sef penillion o wyth llinell unarddecsill, ac mewn 28 o ganiadau. Cychwynnodd Pulci ar ''Morgante'' tua 1460, a chyhoeddwyd y gerdd yn llawn yn 1483.
 
Tua 1461, ar gais Lucrezia Tornabuoni, mam Lorenzo, cychwynnodd Pulci ar ei gerdd ''Morgante''. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o'r gerdd ym 1478, a chanddi 23 o ganiadau. Derbyniodd ymateb ffyrnig gan yr Academi Blatonaidd yn Fflorens. Cyhoeddwyd y gerdd yn llawn, dan y teitl ''Il Morgante maggiore'' a chyda 28 o ganiadau, yn Fflorens ym 1483. Addasiad ydyw o ddwy gerdd o'r 14g yn nhraddodiad [[Mater Ffrainc]]: ''Orlando'', sydd yn traddodi anturiaethau Orlando ([[Rolant]]) yn y dwyrain, a ''La Spagna'', hanes rhyfel [[Siarlymaen]] yn Sbaen, marwolaeth Orlando ym [[Brwydr Ronsyfal|Mrwydr Ronsyfal]], a chosb y bradwr Gano. Ffug-arwrgerdd ydyw sydd yn barodi ar farddoniaeth sifalriaidd yr Oesoedd Canol ac yn portreadu'r cawr Morgante yn arwr y chwedl.
 
Wedi i Lorenzo etifeddu arglwyddiaeth Fflorens ym 1469, penodwyd Pulci i arwain sawl cenhadaeth ddiplomyddol. Er ei weithgareddau llenyddol a diplomyddol, ni lwyddodd Pulci i wella'i safle ariannol. Methodd ei frodyr, Luca a Bernardo, roi trefn ar gyllid y teulu, a bu farw Luca mewn carchar dyledwyr ym 1470. Mae'n bosib i Pulci golli ffafr Lorenzo oherwydd y ffrae rhyngddo a Matteo Franco.<ref name=EWB/> Tua 38 oed ymunodd Pulci â byddin y ''[[condottiere]]'' Roberto Sanseverino, a bu'n filwr am dâl am weddill ei oes. Ar ei ffordd i [[Fenis]] yng nghwmni Sanseverino bu farw Luigi Pulci ar 11 Tachwedd 1484 o afiechyd yn [[Padova]], [[Gweriniaeth Fenis]], yn 52 oed.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Luigi-Pulci |teitl=Luigi Pulci |dyddiadcyrchiad=17 Mehefin 2019 }}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Darllen pellach ==
* Lewis D. Einstein, ''Luigi Pulci and the Morgante Maggiore'' (1902).
* Giacomo Grillo, ''Two Aspects of Chivalry: Pulci and Boiardo'' (1942).
* John Raymond Shulters, ''Luigi Pulci and the Animal Kingdom'' (1920).
 
{{DEFAULTSORT:Pulci, Luigi}}
[[Categori:Beirdd Eidalaidd y 15fed ganrif]]
[[Categori:Beirdd Eidalaidd yn yr iaith Eidaleg]]
[[Categori:Genedigaethau 1432]]
[[Categori:Llenorion Eidalaidd y 15fed ganrifHurfilwyr]]
[[Categori:Llenorion Eidaleg y Dadeni]]
[[Categori:Marwolaethau 1484]]