Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Maes Bosworth"

Ychwanegwyd 1 beit ,  10 mis yn ôl
B
 
;10 Awst
Crosewyd y Teifi ger tref Aberteifi gan aros am seibiant (medd y traddodiad) yn nhafarn "Y Tri Morwr" er mwyn sygrifennu rhagor o lythyrau i dywysogion ac Arglwyddi Cymreig. Ceir copi o un o'r rhain - llythyr at "John ap Meredith ap Jevan ap Meredith", sgweiar o ardal [[Eifionydd]]. AnddoYnddo, mae'n dweud: ''"... the great confidence that we have to the nobles and commons (hy yr uchelwyr a'r werin) of this our Principality of Wales... to descend into the realm of England for the recovery of the crown unto us... for the opression of that odious tyrantRichardtyrant Richard late duke of Gloucester (hy Richard III)... and (return) their people to their original liberties, delivering them from such miserable servitudes..." Yn y llythyr hwn mae Harri'n gosod ei hun fel achubwr cenedl y Cymry ac yn annog ei bobl i ochri gydag ef.<ref>''Bosworth: The Birth of the Tudors'' gan [[Chris Skidmore]]; Phoenix / Orion Books 2013; Llundain; isbn=978-0-7538-2894-6 tud: 238; adalwyd 11 Ionawr</ref>
 
Ger y 14fed garreg filltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi arhosodd y fyddin i gael cyflenwad o ddŵr o Ffynnondewi. Wedi diwrnod hir o deithio 23 milltir, codwyd gwersyll ar dir plasty "Neuadd", cartref Dafydd ap Ieuan yn [[Llwyn Dafydd]] ym mhlwyf Llandysilio-gogo, ger [[Cwm Tudu]]. Mae Cwm Tudu ar yr arfordir, ac ychydig i ffwrdd o'u taith naturiol o Aberteifi i Aberystwyth, felly gellir ystyried y posibilrwydd i Harri gyfarfod a llongau yma, gyda chyflenwad o fwyd, arfau neu filwyr. Fel llawer o'r Cymry a fu'n driw iddo ar ei daith, gwobrwywyd Dafydd ap ieuanIeuan, wedi buddugoliaeth Maes Bosworth am ei garedigrwydd gydag anrheg o Gorn Hirlas ar orffwysfa arian, wedi'i addurno gyda draig Goch a milgi.
 
;11 Awst
4,868

golygiad