Cwmtydu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

pentref yng Ngheredigion
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} | gwleidyddiaeth = Gwleidyddiaeth | aelodcynulliad = {{Swits Cered...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:54, 6 Medi 2020

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Cwmtydi. Mae'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o dref fechan Ceinewydd ac yn rhan o gymuned Llandysiliogogo. Mae ar lan Afon Ffynnon Ddewi sy'n llifo i'r môr ger Cwmtydi, tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin ar lan Bae Ceredigion.

Cwmtydu
Mathpentrefan, traeth, cildraeth, bae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCeinewydd Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.191482°N 4.406732°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Llwyndafydd, Caerwedros a Nanternis. Mae un o'r ddwy ffordd i lawr i'r bae yn mynd drwy Lwyndafydd lle saif hen blasty Neuadd Llwyn Dafydd. Yno, ar 10 Awst 1485, cododd Harri Tudur wersyll ar dir plasty "Neuadd", cartref Dafydd ap Ieuan yn Llwyn Dafydd. Mae Cwm Tudu ar yr arfordir, ac ychydig i ffwrdd o'u taith naturiol o Aberteifi i Aberystwyth, felly gellir ystyried y posibilrwydd i Harri gyfarfod a llongau (o Ffrainc neu Lydaw) yma, gyda chyflenwad o fwyd, arfau neu filwyr. Fel llawer o'r Cymry a fu'n driw iddo ar ei daith, gwobrwywyd Dafydd ap ieuan, wedi buddugoliaeth Maes Bosworth am ei garedigrwydd gydag anrheg o Gorn Hirlas ar orffwysfa arian, wedi'i addurno gyda draig Goch a milgi. Mae'n bosib mai'r enw 'Tudur' yw tarddiad enw'r pentref.

Cyfeiriadau

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: