Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cwmtydu"

Lleihawyd o 40 beit ,  10 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
(odyn + Bosworth)
[[Pentref]] bychan yn ne [[Ceredigion]] yw '''Cwmtydi'''. Mae'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o dref fechan [[Ceinewydd]] ac yn rhan o gymuned [[Llandysiliogogo]]. Mae ar lan [[Afon Ffynnon Ddewi]] sy'n llifo i'r môr ger [[Cwmtydi]], tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin ar lan [[Bae Ceredigion]]. Ceir hen odyn galch i lawr wrth y traeth.
 
Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys [[Llwyndafydd]], Caerwedros a [[Nanternis]]. Mae un o'r ddwy ffordd i lawr i'r bae yn mynd drwy Lwyndafydd lle saif hen blasty Neuadd Llwyn Dafydd. Yno, ar 10 Awst 1485, ar ei ffordd i [[Maes Bosworth|Faes Bosworth]], cododd [[Harri Tudur]] wersyll ar dir plasty "Neuadd", cartref Dafydd ap Ieuan yn [[Llwyn Dafydd]]Llwyndafydd. Mae Cwm Tudu ar yr arfordir, ac ychydig i ffwrdd o'u taith naturiol o [[Aberteifi]] i [[Aberystwyth]], felly gellir ystyried y posibilrwydd i Harri gyfarfod a llongau (o Ffrainc neu Lydaw) yma, gyda chyflenwad o fwyd, arfau neu filwyr. Fel llawer o'r Cymry a fu'n driw iddo ar ei daith, gwobrwywyd Dafydd ap ieuan, wedi buddugoliaeth Maes Bosworth am ei garedigrwydd gydag anrheg o Gorn Hirlas ar orffwysfa arian, wedi'i addurno gyda draig Goch a milgi. Mae'n bosib mai'r enw 'Tudur' yw tarddiad enw'r pentref.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{comin|Category:Llwyndafydd|Lwyndafydd}}
 
{{Trefi Ceredigion}}
 
4,839

golygiad