Diddymu caethwasiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
erthygl newydd WiciAddysg
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:16, 6 Medi 2020

Diddymu caethwasiaeth oedd y mudiad i ddod â chaethwasiaeth i ben. Gellir defnyddio'r term hwn yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Yng ngorllewin Ewrop ac America, roedd diddymu caethwasiaeth yn fudiad hanesyddol a geisiodd ddod â masnach gaethweision yr Iwerydd i ben a rhyddhau pob caethwas. Bu'r ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth yn hir ac anodd, gydag unigolion, mudiadau a sefydliadau yn UDA a Phrydain yn gorfod brwydro’n galed i ddileu caethwasiaeth a sicrhau rhyddid i’r caethweision. Ymgyrchwyd, ysgrifennwyd llenyddiaeth, cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus, cyflwynwyd deisebau ac apeliwyd i’r Senedd er mwyn cael gwared ar y gyfundrefn a oedd wedi achosi cymaint o ddioddefaint. Daeth Rhyfel Cartref America rhwng 1861 a 65 yn rhyfel yn erbyn caethwasiaeth. Yn UDA, roedd unigolion fel William Garrison yn ymgyrchwyr adnabyddus, ac ym Mhrydain roedd Granville Sharp, Thomas Clarkson a William Wilberforce ymhlith arweinyddion yr ymgyrch.

"Am I Not a Man and a Brother?", Medal 1787 a ddyluniwyd gan Josiah Wedgwood ar gyfer ymgyrch gwrth-gaethwasiaeth yn Prydain
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Argyfwng y Weriniaeth Americanaidd
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Diddymwyr blaenllaw yn America

Erbyn dechrau’r 19eg ganrif sefydlwyd cymdeithasau gwrthgaethwasiaeth yn America. Ymhlith y rhai cyntaf roedd y Gymdeithas Gwladychiad Americanaidd a sefydlwyd yn 1817. Bwriad y gymdeithas oedd dychwelyd caethweision oedd wedi eu rhyddhau i Affrica. Ym 1821, prynodd asiantau a oedd yn cynrychioli’r gymdeithas dir yng Ngorllewin Affrica er mwyn creu gwlad newydd. Yn 1822 aeth pobl dduon rhydd draw i ymsefydlu yno ac erbyn 1847 ildiodd y gymdeithas reolaeth i weriniaeth annibynnol Liberia. Erbyn 1860 dim ond 15,000 o ddynion duon oedd wedi ymfudo i Affrica - nifer bach iawn o’i gymharu â nifer y genedigaethau ymysg y caethweision.[1]

Roedd gwleidyddion blaenllaw yn UDA yn cefnogi'r Gymdeithas - yn eu plith, James Madison, James Monroe, Henry Clay a Daniel Webster. Gwelai rhai'r mudiad fel cyfle i ryddfreinio pobl dduon tra bod eraill yn gweld y gymdeithas fel ffordd o gadw caethwasiaeth drwy gael gwared ar y bobl dduon rhydd a allai fod yn anodd eu rheoli, ac a allai achosi problemau.

Yn 1832 sefydlodd William Lloyd Garrison a’i ddilynwyr Gymdeithas Gaethwasiaeth Lloegr Newydd a’r flwyddyn flaenorol yn 1831 roedd Garrison wedi dechrau cyhoeddi papur newydd gwrth-gaethwasiaeth o’r enw ‘The Liberator’, a ddefnyddiai i frwydro yn erbyn caethwasiaeth. Yn 1833 sefydlodd dau fasnachwr cyfoethog o Efrog Newydd, sef Arthur a Lewis Tappan, grŵp tebyg a elwid yn Gymdeithas Gwrthgaethwasiaeth America. Roedd y gymdeithas yn gobeithio manteisio ar y cyhoeddusrwydd a roddwyd i waith William Wilberforce ym Mhrydain a arweiniodd at y llywodraeth yn diddymu caethwasiaeth drwy’r Ymerodraeth Brydeinig ym 1833. Erbyn canol y 1840au, roedd gan y mudiad tua 1,300 o gymdeithasau lleol a chyfanswm aelodaeth o 250,000.

Daeth cefnogaeth i ddiddymu caethwasiaeth oddi wrth bobl oedd yn cael eu denu at fudiadau diwygio eraill. Tueddai Diddymwyr ddod o deuluoedd crefyddol. Ymhlith cefnogwyr cynharaf eraill y mudiadau Diddymu roedd Americaniaid Affricanaidd rhydd oedd yn byw yn nhaleithiau’r Gogledd. Un o’r rhai enwocaf oedd Frederick Douglass, a oedd wedi bod yn gaethwas ac a ddihangodd, ac wrth ddarlithio ac ysgrifennu enillodd ddigon o arian i brynu ei ryddid. Roedd yn un o brif arweinyddion pobl dduon America yn ystod y 1850au ac fe'i gwahoddwyd i siarad mewn cyfarfodydd yn aml.[2]

Ymhlith y Diddymwyr blaenllaw eraill roedd Charles Sumner, Seneddwr gwyn a wnaeth sawl araith gyhoeddus yn erbyn caethwasiaeth; Sojourner Truth, a oedd yn siaradwr crefyddol a oedd yn areithio mewn llawer o gyfarfodydd y Diddymwyr, ac a oedd ei hun yn gaethwas a oedd wedi ffoi.[3]

Un o weithiau llenyddol enwocaf y 19eg ganrif a roddodd ddisgrifiad o natur greulon caethwasiaeth oedd nofel Harriet Beecher, Uncle Tom’s Cabin, a gyhoeddwyd yn 1852 ac a fu’n hollbwysig o ran peri i’r cyhoedd sylweddoli pa mor erchyll yw caethwasiaeth.[4]

Erbyn y 1840au roedd diddymu caethwasiaeth wedi troi'n destun gwleidyddol yn ogystal â bod yn ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb. Gwelwyd gwleidyddiaeth fel yr unig ffordd o ddiniistrio caethwasiaeth, ond nid oedd y ddwy brif blaid yn America, sef y Chwigiaid a’r Democratiaid, yn fodlon dod yn rhan o’r drafodaeth. O ganlyniad, ffurfiodd rhai o’r diddymwyr yn y cyfnod hwn eu plaid eu hunain, sef y Blaid Rhyddid. Bu’r blaid newydd hon yn allweddol o ran sicrhau bod diddymu caethwasiaeth yn dod yn destun trafod yng ngwleidyddiaeth genedlaethol America. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at ryfel cartref.[5]

Dylanwad llenyddiaeth

 
Olaudah Equiano

Ysgrifennodd cyn-gaethweision weithiau llenyddol hefyd a oedd yn dystiolaeth bwerus i gryfhau’r ddadl dros ddiddymu caethwasiaeth. Ymhlith y rhai hynny roedd Ottobah Cugoano ac Olaudah Equiano. Roedd Cuguano, a anwyd tua 1757 yn Ghana, wedi bod yn gaethwas yn India’r Gorllewin cyn iddo ffoi i Loegr yn 1772.[6] Yn Lloegr daeth yn ddyn rhydd, ac yno ysgrifennodd lyfr yn amlinellu’r dadleuon dros ddiddymu caethwasiaeth, sef ‘Thoughts and Sentiments on the Evil and Wicked Traffic of the Human Species’, a gyhoeddwyd yn 1787. Cyflwynodd ddadleuon crefyddol, moesol ac ariannol dros gael gwared ar y gyfundrefn ffiaidd.[7]

Cyn-gaethwas arall, a oedd hefyd yn un o gyfoedion ac yn ffrind i Cuguano, ac yn gefnogwr blaengar ac adnabyddus i'r achos dros ddiddymu caethwasiaeth, oedd Olaudah Equiano. Ysgrifennodd hanes ei fywyd fel caethwas yn ei hunangofiant, “The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano; or, Gustavus Vassa, the African, Written by Himself’ a gyhoeddwyd yn 1789. Ganwyd ef yn Nigeria tua 1745, a chafodd ei gipio a’i werthu fel caethwas, a mynd draw i India’r Gorllewin cyn prynu ei ryddid yn 1766. Dechreuodd fywyd newydd draw yn Lloegr a daeth yn un o ymgyrchwyr mwyaf brwdfrydig y Mudiad Diddymu ym Mhrydain.[8]

Roedd eu tystiolaeth a’u profiadau nhw yn bwysig iawn o ran tynnu sylw’r cyhoedd at ddioddefaint y caethweision ac at ffieidd-dra'r system.

Ymerodraeth Prydain

 
Poster yn hysbysebu gwasanaeth capel arbennig i ddathlu Diddymu Caethwasiaeth ym 1838

Roedd ymgyrchwyr adnabyddus o blaid diddymu caethwasiaeth oddi mewn i Ymerodraeth Prydain, fel John Wesley, y pregethwr Methodistaidd, a Josiah Wedgwood, yn ogystal â grwpiau crefyddol, fel y Crynwyr. Defnyddiodd Wedgwood ei fuddiannau fel perchennog ffatrïoedd crochenwaith i gynhyrchu plac a ddaeth yn symbol pwerus i ddenu cyhoeddusrwydd yn erbyn caethwasiaeth.

Ymhlith y Diddymwyr eraill oedd yn siaradwyr huawdl ac yn ymgyrchwyr yn erbyn caethwasiaeth roedd Granville Sharp, Thomas Clarkson a William Wilberforce. Dadleuodd ac ysgrifennodd Sharp sawl gwaith dros hawliau caethweision - er enghraifft, achos Jonathan Strong (1767) a James Somerset (1772)[9] gan fynd â’u hachosion i’r llysoedd ac ennill yno. Llwyddwyd i sicrhau hawl James Somerset, sef caethwas o Virginia a gyrhaeddodd Lloegr, i gael bod yn rhydd unwaith y daeth i Brydain. Drwy hyn, enillodd caethweision eraill yn Lloegr yr hawl i fod yn rhydd.[10][11]

Cerrig milltir pwysig

Roedd Clarkson a Wilberforce yn ffrindiau ac yn aelodau pwysig o’r Mudiad Gwrth-gaethwasiaeth ym Mhrydain, mudiad a sefydlwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif.[12]

Casglai’r ddau wybodaeth fanwl am y fasnach gaethweision, y porthladdoedd oedd yn elwa, amodau byw'r caethweision ar yr hylciau mawr oedd yn eu cludo ar draws yr Iwerydd, cynlluniau a modelau o’r hylciau a hyd yn oed casglu offer a ddefnyddiwyd i gosbi caethweision. Wedyn, byddent yn cyflwyno'r wybodaeth honno gerbron y Senedd ar ran y mudiad. Cyflwynodd Wilberforce sawl mesur i geisio diddymu’r fasnach gaethweision, ac yn y diwedd pasiodd y Senedd ddeddf yn 1807 a oedd yn diddymu'r fasnach gaethweision, a oedd yn rhan o’r fasnach driongl ar draws Ymerodraeth Prydain. Golygai hyn ei bod yn anghyfreithlon prynu a gwerthu caethweision oddi mewn i'r ymerodraeth. Yn 1808 diddymwyd y fasnach gaethweision yn UDA ond parhaodd mewn llawer o’r taleithiau deheuol.[13]

Parhaodd y frwydr i ddiddymu caethwasiaeth wrth i wahanol fudiadau diddymu gynnal cyfarfodydd, cyhoeddi pamffledi a chyflwyno deisebau i’r Senedd. Olynwyd William Wilberforce, wedi iddo ymddeol o fywyd cyhoeddus yn 1825, gan Thomas Fowell Buxton fel prif ymgyrchydd y Gymdeithas dros Ddiddymu Caethwasiaeth ym Mhrydain. Er ei fod mewn iechyd gwael, gwyddai Wilberforce cyn iddo farw fod Llywodraeth Prydain wedi pasio Deddf Rhyddfreinio 1833 a oedd yn gwarantu bod caethweision oddi mewn i drefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig yn rhydd. Rhoddai telerau’r ddeddf yr hawl i gyn-berchnogion caethweision oddi mewn i'r Ymerodraeth Brydeinig hawlio iawndal. Ni chafodd caethweision ym mhob rhan o’r Ymerodraeth eu rhyddhau (er enghraifft, yn Sri Lanca) a bu’n rhaid aros tan 1838 i gaethwasiaeth gael ei ddiddymu'n gyfan gwbl ym mhob rhan o’r Ymerodraeth.[14][15]

Cyfeiriadau

  1. "WJEC Educational Resources Website". resources.wjec.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  2. "Frederick Douglass | Biography, Life, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  3. "Sojourner Truth". Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  4. "Harriet Beecher Stowe | Biography, Books, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  5. "Resource WJEC Educational Resources Website". resources.wjec.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  6. "Ottobah Cugoano (c. 1757– after 1791) active abolitionist". The British Library. Cyrchwyd 2020-09-04.
  7. "Ottobah Cugoano Facts". biography.yourdictionary.com. Cyrchwyd 2020-09-04.
  8. "Olaudah Equiano | Biography & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  9. "The National Archives | Exhibitions & Learning online | Black presence | Rights". www.nationalarchives.gov.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  10. "BBC - History - Historic Figures: Granville Sharp (1735-1813)". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  11. "Granville Sharp | English scholar and philanthropist". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  12. "William Wilberforce and abolition | Revealing Histories". revealinghistories.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  13. Editors, History com. "Congress abolishes the African slave trade". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  14. "William Wilberforce | Hull History Centre". www.hullhistorycentre.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  15. "The History Press | The Slavery Abolition Act of 1833". www.thehistorypress.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.