Teyrnas Prydain Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | suppressfields = cylchfa sir }}
Roedd '''Teyrnas Prydain Fawr''' (a elwir weithiau, ond yn anghywir, yn ''Deyrnas Unedig Prydain Fawr''), yn [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] yng [[Gorllewin Ewrop|Ngorllewin Ewrop]], a fodolai o [[1707]] hyd [[1800]]. Cafodd ei chreu trwy uniad [[Teyrnas yr Alban]] a [[Teyrnas Lloegr|Theyrnas]] [[Lloegr]], dan [[Deddfau Uno 1707|Ddeddfa Uno 1707]], i greu teyrnas unigol yn cynnwys [[Prydain Fawr]] i gyd ([[Lloegr]], [[Cymru]] a'r [[Alban]] heddiw). Addaswyd [[senedd Lloegr]] i greu senedd newydd, [[Senedd Prydain Fawr]] yn [[San Steffan]], [[Llundain]], gyda llywodraeth newydd seiliedig ar hen lywodraeth Lloegr, i'w rheoli. Paratowyd y tir ar gyfer yr uniad gan y ffaith fod teyrnasoedd yr Alban a Lloegr (a oedd yn cynnwys [[Cymru]] at bwrpasau deddfwriaethol) wedi rhannu'r un teyrn ers i [[Iago VI, Brenin yr Alban]], ddod yn frenin Lloegr yn [[1603]].