Mudiad Adfer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Ychwanegu'r paragraff cyntaf i sôn am Gwmni Adfer. Ychwanegu dau ddolen allanol. |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Roedd '''Mudiad Adfer''' yn grŵp protest a darddodd allan o [[Cymdeithas yr Iaith|Gymdeithas yr Iaith]] yn yr [[1970au]]. Tynnodd y mudiad ei syniadau o amrywiol ffynonellau, yn eu plith erthyglau gan [[Owain Owain]] <ref>[http://www.owainowain.net/ygwleidydd/YFroGymraeg/yfroGymraegEiHun.htm Tafod y Ddraig Rhif 4; Ionawr 1964]</ref> ac [[Emyr Llewelyn]]. Roedd y syniadau a ddatblygwyd gan yr athronydd [[J. R. Jones]] yn y [[1960au]] ynghylch "bychanfyd", "troedle" i'r iaith, a "cydymdreiddiad iaith a thir" yn ddylanwad amlwg hefyd, a dyfynnai'r athronydd yn aml o waith y bardd [[Waldo Williams]]. Credai'r mudiad mewn gwarchod "[[Y Fro Gymraeg]]" – ardal gyda'r mwyafrif o'i thrigolion yn siarad Cymraeg. gyda'r Gymraeg yn ddelfrydol yn unig iaith bywyd cyhoeddus, e.e, ar arwyddion ffyrdd. Trwy greu peuoedd uniaith yn unig y gellid diogelu'r Gymraeg fel iaith cymuned. Cyhoeddai'r mudiad gylchgrawn, ''Yr Adferwr'', ac ymgyrchwyd dros symud cyrff cyhoeddus yn ymwneud â'r diwylliant Cymraeg o Gaerdydd i'r Fro Gymraeg.
|