Yr Hen Ogledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: meddianu → meddiannu using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
 
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | suppressfields = cylchfa sir }}
[[Delwedd:North Britain 547-685.png|bawd|300px|Map o'r Hen Ogledd]]
 
Mae'r term '''yr Hen Ogledd''' yn cyfeirio at diriogaeth teyrnasoedd [[Brythoniaid|Brythonaidd]] yr ardal sydd erbyn heddiw yn rhan o ogledd [[Lloegr]] a de'r [[Yr Alban|Alban]] yn y cyfnod yn dilyn ymadawiad y [[Rhufeiniaid]], sef o tua'r [[5ed ganrif|bumed]] i'r [[7fed ganrif|seithfed ganrif]]. O'r Hen Ogledd daeth y [[llenyddiaeth Gymraeg]] gynharaf, cerddi [[arwr]]ol gan feirdd [[yr Hengerdd]] am y brwydro rhwng teyrnasoedd y Brythoniaid a llwythau'r [[Eingl-Sacsoniaid]] oedd yn ceisio goresgyn y Brythoniaid a meddiannu eu tir. O'r Hen Ogledd daeth [[Cunedda Wledig]] a'i ddilynwyr hefyd, sefydlwyr [[teyrnas Gwynedd]].
[[Delwedd:North Britain 547-685.png|bawd|hwith|300px|Map o'r Hen Ogledd]]
 
Gellir diffinio'r Hen Ogledd fel yr Alban i'r de o linell ddychmygol rhwng cyffiniau [[Stirling]] a [[Loch Lomond]] a'r siroedd Seisnig presennol [[Cumbria]], [[Swydd Gaerhirfryn]], [[Swydd Durham]], [[Northumberland]], [[Swydd Efrog]] a [[Humberside]]. Mae hyn yn diriogaeth ehangach nag yw Cymru heddiw. Mae'n bosibl fod teyrnasoedd yr Hen Ogledd (trwy [[Elfed]]) yn ymestyn mor bell i'r de ag ardal [[Sir Gaer]] heddiw. Cafodd teyrnasoedd yr Hen Ogledd eu gwahanu oddi wrth Gymru gyda [[Brwydr Caer]] yn [[615]]. Ffurf ar y [[Brythoneg|Frythoneg]] a droes yn [[Cymraeg Cynnar|Gymraeg Cynnar]] oedd iaith trigolion yr Hen Ogledd: [[Cymbreg]] yw'r enw a ddefnyddir weithiau i'w disgrifio a cheir olion ohoni mewn enwau lleoedd yn Cumbria.