Defnyddiwr:Stefanik/Pwll Tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
}}
 
'''Uwch Adran Uwch Gynghrair Iwerddon''' ([[Saesneg]]: '''League of Ireland Premier Division'''; [[Gwyddeleg]]: ''Cymroinn Sraith na Iwerddon'') yw rheng uchaf o [[bêlpêl-droed]] ar lefel clwb yng [[Gweriniaeth Iwerddon|Ngweriniaeth Iwerddon]]. Mae'n cynnwys deg clwb ac mae'r tymor yn dechrau ym mis Mawrth ac yn gorffen ym mis Hydref, gyda phob clwb yn chwarae 36 gêm (pedair gwaith gyda phob cystadleuydd). Fe’i cynhelir yn ystod misoedd yr haf er mwyn peidio â chyd-fynd ag [[Uwch Gynghrair Lloegr]], pencampwriaeth sy’n denu sylw cefnogwyr yn Iwerddon. Mae enillwyr yr Uwch Gynghrair yn chwarae yn rownd rhagbrofol [[Cynghrair y Pencampwyr UEFA]], tra bod y tîm ar waeld y Gynghrair yn disgyn i Adran Gyntaf yr FAI (ail adran). Ar hyn o bryd mae'r gystadleuaeth yn cael ei noddi gan Airtricity, a dyna pam mae'r twrnamaint hefyd yn cael ei alw'n '''Airtricity Premier Division'''. Fe'i gelwid yn flaenorol yn Eircom Premier Division, rhwng 2000 a 2008.
 
Er 1921, mae cyfanswm o 19 clwb wedi cael eu coroni’n bencampwyr Cynghrair Pêl-droed Iwerddon. Clwb Pêl-droed Derry City yw'r unig glwb sydd wedi lleoli y tu allan i ffin [[Gweriniaeth Iwerddon]].
Llinell 30:
 
==Hanes==
[[File:Brandon Miele.jpg|thumb|Brandon Miele o Shamrock Rovers, tîm fwyaf llwyddiannus y Gynghrair, 2016]]
Sefydlwyd Cynghrair Iwerddon ym 1921 fel "Cynghrair y Wladwriaeth Rydd". Erbyn hynny roedd y bencampwriaeth yn cynnwys wyth tîm o [[Dulyn|Ddulyn]], a'r pencampwr cyntaf oedd St James's Gate FC. Dros y blynyddoedd ehangodd y bencampwriaeth i glybiau eraill yn nhiriogaeth Iwerddon, a chafodd ei dominyddu gan dri thîm o Ddulyn: Shamrock Rovers FC, Bohemian FC a Shelbourne FC. Y tîm cyntaf a enillodd y gynghrair ac nad oedd yn perthyn i'r brifddinas oedd Dundalk FC, yn nhymor 1932-33.