Gwener (planed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 13:
 
Fydd hi byth yn crwydro ymhell o'r haul, chwaith, a bydd i'w gweld, ar ei hamlycaf, ychydig cyn y wawr neu ar ôl y machlud. Dyma pam y'i gelwir hi'n "Seren y Gweithiwr", gan ei bod yn codi gyda'r wawr, neu yn "Seren y Machlud". Mewn gwirionedd, cyfeirir atynt ym mytholeg Groeg fel dwy seren a cheid yr enwau Hesperus arni yn ei chyflwr boreuol a Phosphorus gyda'r nos.
 
Ar 14 Medi 2020 cyhoeddwyd fod tîm rhyngwladol o seryddwyr, o dan arweiniad yr Athro Jane Greaves o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, [[Prifysgol Caerdydd|Brifysgol Caerdydd]] wedi darganfod moleciwlau ffosffin yng nghymylau Gwener. Ar y ddaear, mae ffosffin yn cael ei gynhyrchu mewn diwydiant neu gan ficrobau sy’n byw mewn amgylcheddau lle nad oes ocsigen. Gwnaed ymchwil i weld os oedd unrhyw ffyrdd posib eraill i gynhyrchu ffosffin ar Gwener ond ni ddarganfuwyd esboniad arall, er fod bylchau mawr yn ein dealltwriaeth o amgylchfyd y blaned. Dywedodd yr ymchwilwyr fod angen llawer mwy o dystiolaeth er mwyn profi'r ddamcaniaeth fod bywyd yn bodoli ar y blaned.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg.360.cymru/newyddion/2013129-awgrymiadau-bywyd-blaned-gwener|teitl=https://golwg.360.cymru/newyddion/2013129-awgrymiadau-bywyd-blaned-gwener|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=14 Medi 2020}}</ref>
 
==Eicon Sosialaidd==