9,145
golygiad
Dim crynodeb golygu |
|||
Mudiad diwygiadol [[Cristnogaeth|Cristnogol]] o [[Protestaniaeth|Brotestaniaid]] yn y
Roedd Piwritaniaid yn anhapus â dylanwad cyfyngedig y Diwygiad Seisnig a chyda goddefiad Eglwys Loegr o rai arferion oedd yn gysylltiedig â'r Eglwys Babyddol. Eu bwriad oedd puro Eglwys Loegr o ran addoli ac athrawiaeth, yn ogystal â duwioldeb personol a chorfforaethol. Mabwysiadodd Piwritaniaid ddiwinyddiaeth Ddiwygiedig ac, yn yr ystyr hwnnw, roeddent yn Galfiniaid (yn yr un modd â llawer o'u gwrthwynebwyr cynharach). Roedd rhai Piwritaniaid o blaid gwahanu oddi wrth yr holl enwadau Cristnogol eraill er mwyn sefydlu eglwysi annibynnol. Daeth y grwpiau gwahanol hyn a fodolai oddi mewn i'r Piwritaniaid, fel yr Ymwahanwyr, i'r amlwg yn y 1640au, pan oedd Cynulliad San Steffan yn methu ffurfio eglwys genedlaethol newydd yn Lloegr.
Erbyn diwedd y 1630au, roedd y Piwritaniaid mewn cynghrair â'r byd masnachol oedd yn ehangu o ran dylanwad yn y gymdeithas, yn gwrthwynebu cysyniad ‘hawl dwyfol’ y frenhiniaeth, ac roedd ganddynt gefnogwyr pwerus ym [[Presbyteriaeth|Mhresbyteriaid]] [[yr Alban]]. O ganlyniad, daethant yn rym gwleidyddol mawr yn Lloegr, a chryfhawyd y grym hwnnw o ganlyniad i [[Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr|Ryfel Cartref Cyntaf Lloegr]] (1642–1646). Gadawodd bron pob clerigwr Piwritanaidd Eglwys Loegr ar ôl adferiad y frenhiniaeth ym 1660 a Deddf Unffurfiaeth 1662. Parhaodd llawer i arfer eu ffydd mewn enwadau anghydffurfiol, yn enwedig mewn eglwysi Annibynnol a Phresbyteraidd. Bu newid radicalaidd yn natur y mudiad yn Lloegr, er iddo gadw ei gymeriad am gyfnod llawer hirach yn [[Lloegr Newydd]], America.<ref>{{Cite book|title=The Puritan gentry besieged, 1650-1700|url=https://www.worldcat.org/oclc/919306589|location=[Place of publication not identified]|isbn=978-1-134-91815-7|oclc=919306589|last=Cliffe, J. T. (John Trevor), 1931-}}</ref>
Ni chafodd Piwritaniaeth erioed ei ddiffinio'n ffurfiol o fewn Protestaniaeth, ac yn anaml y defnyddiwyd y term ‘Piwritan’ ei hun ar ôl troad y 18fed ganrif. Ymgorfforwyd rhai delfrydau Piwritanaidd - gan gynnwys gwrthod Pabyddiaeth yn ffurfiol - yn athrawiaethau Eglwys Loegr; cafodd eraill eu hamsugno mewn enwadau Protestannaidd eraill a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd yr 17eg a dechrau'r 18fed ganrif yng Ngogledd America a Phrydain. Mae'r eglwysi Cynulleidfaol, yr ystyrir yn gyffredinol eu bod yn rhan o'r traddodiad Diwygiedig, yn ddisgynyddion i'r Piwritaniaid. Yn ogystal â hynny, mae credoau Piwritanaidd wedi eu hymgorffori yn Natganiad Savoy, cyfaddefiad ffydd Eglwysi'r Annibynwyr.<ref>{{Cite book|title=Puritans and Puritanism in Europe and America: A Comprehensive Encyclopedia|url=https://books.google.com/books?id=EzvHvEDPosQC|publisher=ABC-CLIO|date=2006|isbn=978-1-57607-678-1|language=en|first=Francis J.|last=Bremer|first2=Tom|last2=Webster}}</ref>
== Piwritaniaid enwog ==
* Thomas Gouge
* William Bridge
* Thomas Manton
* [[John Flavel]]
* Richard Sibbes
* [[Stephen Charnock]]
* William Bates
* [[John Owen (gwleidydd)|John Owen]]
* John Howe
* [[Richard Baxter]]
== Cyfeiriadau ==
<references />
[[Categori:Piwritaniaeth| ]]
|