Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y plygain"

Ychwanegwyd 1 beit ,  9 mis yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r '''plygain'''. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu [[carol plygain|carolau'r plygain]]. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.<ref name="Gwefan Amgueddfa Cymru">[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/277/ Gwefan Amgueddfa Cymru;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y [[16g]] gydag elfennau llawer hŷn na hynny.
 
Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair [[Lladin]] ''pullicantiō''<ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain</ref>, sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y [[Llydaweg]] fel ''pellgent''. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13g ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am [[SionSiôn Corn]] ydy ''Tad-kozh ar pellgent'' ("Tad-cu y plygain").
 
Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud [[cyflaith]] i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddys i hyn ddigwydd ym [[Marford]], [[Sir y Fflint]] er enghraifft. Roedd yr oriau hyn cyn y plygain, ac felly'n rhai cymdeithasol iawn. Ceir cofnod mai gwneud cyflaith a threulio'r noson yn addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd oedd y traddodiad ym [[Marford]], [[Sir Fflint]], yn y [[1830au]]. Ac yn nyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai pobl [[Dyffryn Clwyd]] eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r [[telyn|delyn]] tan y plygain.