Uwch Gynghrair Gweriniaeth Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
}}
 
'''Uwch Adran Cynghrair Iwerddon''' ([[Saesneg]]: '''League of Ireland Premier Division'''; [[Gwyddeleg]]: ''Cymroinn Sraith na IwerddonhÉireann'') yw rheng uchaf [[pêl-droed]] ar lefel clwb yng [[Gweriniaeth Iwerddon|Ngweriniaeth Iwerddon]]. Mae'n cynnwys deg clwb ac mae'r tymor yn dechrau ym mis Mawrth ac yn gorffen ym mis Hydref, gyda phob clwb yn chwarae 36 gêm (pedair gwaith yn erbyn phob tîm arall). Fe’i cynhelir yn ystod misoedd yr haf er mwyn peidio â chyd-daro ag [[Uwch Gynghrair Lloegr]], cystadleuaeth sy’n denu sylw cefnogwyr yn Iwerddon. Mae enillwyr yr Uwch Adran yn chwarae yn rownd rhagbrofol [[Cynghrair y Pencampwyr UEFA]], tra bod y tîm ar waelod y adran yn disgyn i Adran Gyntaf Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon, sef yr ail reng. Ar hyn o bryd mae'r Uwch Adran yn cael ei noddi gan Airtricity, a dyna pam mae'r twrnamaint hefyd yn cael ei alw'n '''Airtricity Premier Division'''. Fe'i gelwid yn flaenorol yn Eircom Premier Division, rhwng 2000 a 2008.
 
Er 1921, mae 19 clwb wedi cael eu coroni’n bencampwyr Cynghrair Pêl-droed Iwerddon. Clwb Pêl-droed Derry City yw'r unig glwb sydd wedi lleoli y tu allan i ffiniau [[Gweriniaeth Iwerddon]].