The Myvyrian Archaiology of Wales: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''The Myvyrian Archaiology of Wales''' (3 cyfrol, 1801 - 1807) yw'r teitl i gasgliad o destunau Cymraeg Canol a olygwyd gan Owain Myfyr gyda chymorth a chyfraniadau ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''The Myvyrian Archaiology of Wales''' (3 cyfrol, [[1801]] - [[1807]]) yw'r teitl i gasgliad o destunau [[Cymraeg Canol]] a olygwyd gan [[Owain Myfyr]] gyda chymorth a chyfraniadau gan [[Iolo Morganwg]] a [[William Owen Pughe]]. Enwyd y gyfrol ar ôl Owain Myfyr, yn erbyn ei ewyllys, am ei fod mor hael yn achos y gwaith hwn ac hefyd fel noddwr llenorion ac ysgolheigion Cymraeg yn gyffredinol. Cafodd ei gyhoeddi ar ran [[Cymdeithas y Gwyneddigion|Gymdeithas y Gwyneddigion]] yn [[Llundain]]. Ei enw poblogaidd oedd 'Y Myfyrian'.
 
Mae'r ddwy gyfrol gyntaf yn gerrig milltir pwysig yn hanes [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Yn y gyfrol gyntaf ceir detholiad o waith y [[Cynfeirdd]] a'r [[Gogynfeirdd]]. Yn yr ail ceir detholiad da o destunau [[rhyddiaith Cymraeg Canol]] yn cynnwys [[Trioedd Ynys Prydain]] a [[Trioedd|thrioedd]] eraill, [[Bucheddau'r Saint]] a'r [[brut]]iau. Yn anffodus mae cynnwys y drydedd gyfrol yn ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg ei hun. Y bwlch amlwg yn y casgliad yw'r [[Mabinogi|chwedlau]] a'r [[Y Tair Rhamant|Rhamantau]]. Y bwriad oedd eu cyhoeddi fel pedwaredd gyfrol ond redodd arian Myfyr allan.
 
Er bod nifer o walliau yn y testunau yn ôl safonau ysgolheictod heddiw, gwnaeth Myfyr a Pughe ymdrech lew i gasglu detholiad cynrychiolol o lenyddiaeth gynnar Cymru. Eu ffynonellau oedd [[llawysgrif]]au gwerthfawr yr hynafiaethydd [[Paul Panton]] (Plas Gwyn, [[Ynys Môn]]) a [[Thomas Jones (Hafod Uchtryd)]], [[Aelod Seneddol]] [[Ceredigion]].