Teatro di San Carlo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle|image=Teatro San Carlo da piazza Trieste e Trento.jpg| gwlad={{banergwlad|Eidal}}}}
Tŷ opera yn [[Napoli]], [[yr Eidal]] yw'r '''Teatro di San Carlo'''. Weithiau fe'i gelwir yn '''Teatro San Carlo''' neu'n syml y '''San Carlo'''. Ystyr ei enw yw Theatr Sant Siarl. Pan gafodd ei adeiladu gyntaf hwn oedd y tŷ opera mwyaf yn y byd. Heddiw, mae'n dal i fod yn un o'r tai opera mwyaf yn yr Eidal. Dyma hefyd y lleoliad hynaf sy'n weithredol yn barhaus ar gyfer opera yn y byd, ar ôl agor ym 1737, ddegawdau cyn naill ai [[La Scala]] ym [[Milan]] neu La Fenice yn Fennis[[Fenis]]. <ref>[https://www.teatrosancarlo.it/en/pages/historical-highlights.html Gwefan y Theatr ''The Theatre and its history''] adalwyd Medi 23 2020</ref> Perfformiwyd llawer o operâu gyntaf yn y Teatro di San Carlo. Perfformiwyd dau ar bymtheg o operâu [[Gaetano Donizetti|Donizetti]] ac wyth o operâu [[Gioachino Rossini|Rossini]] yno gyntaf. <ref>[https://operavision.eu/en/contributors/teatro-di-san-carlo Opera Vision TEATRO DI SAN CARLO] adalwyd 23 Medi 2020</ref>
==Hanes ==
Roedd gan Frenin newydd Napoli, [[Siarl VII, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Siarl VII]], ddiddordeb mawr yn y celfyddydau. Roedd am i'r ddinas gael tŷ opera newydd a hardd. Roedd yr hen un, y Teatro San Bartolomeo, wedi dadfeilio. Talodd y Brenin Siarl am adeiladu'r theatr newydd. Fe'i hadeiladwyd ar dir wrth ymyl ei balas a'i ddylunio gan [[Giovanni Antonio Medrano]] (1703 - 1760). Dim ond saith mis a gymerodd i'r theatr newydd ei hadeiladu. Fe agorodd ar [[4 Mawrth]] [[1737]]. Yr opera gyntaf a berfformiwyd yno oedd ''Achille in Sciro'' (Achilles yn Skyros). Ysgrifennodd y bardd enwog o'r Eidal, [[Pietro Metastasio|Metastasio]], y geiriau a'r stori. Ysgrifennodd Domenico Sarro y gerddoriaeth. Bu hefyd yn arwain y gerddorfa.