Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Voortrekker"

Ychwanegwyd 1 beit ,  blwyddyn yn ôl
B
acen
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB)
B (acen)
Defnyddir y term '''Voortrekker''' am y bobl o darddiad [[Yr Iseldiroedd|Iseldiraidd]] yn [[De Affrica|Ne Affrica]] a adawodd [[Trefedigaeth y Penrhyn|Drefedigaeth y Penrhyn]] rhwng [[1830]] a [[1850]], wedi i'r drefedigaeth ddod yn rhan o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]]. Symudasant tua'r gogledd, i'r ardaloedd o amgylch [[afon Oren]], yn yr hyn a alwyd y ''Grote Trek'' ("y daith fawr").
 
Cyrhaeddodd rhai o'r Voortrekkers i [[KwaZulu-Natal|Natal]], lle gwnaethant gytundeb aâ [[Dingane]], brenin y [[Zulu]]. Yn nes ymlaen, newidiodd Dingane ei feddwl, a lladdodd arweinydd y Voortrekkers, [[Piet Retief]], a thua hanner ei ddilynwyr. Daeth [[Andries Pretorius]] yn arweinydd, a gorchfygodd Dingane ym [[Brwydr Blood River|Mrwydr Blood River]] yn [[1838]]. Sefydlwyd [[Gweriniaeth Natalia]] yn [[1839]], ond meddiannwyd hi gan Brydain yn [[1843]].
 
Sefydlwyd nifer o weriniaethau [[Boer]] yn nhiriogaeth y Zulu, a ffurfiwyd [[Gweriniaeth Rydd Oren]] a'r Weriniaeth Dde Affricanaidd. Parhaodd y rhain hyd nes i Brydain ei meddiannu yn ystod [[Ail Ryfel y Boer]] yn [[1900]].
71,456

golygiad