Siân Wheway: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: clean up
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 5:
 
==Gyrfa==
Bu'n gweithio gyda'r BBC ac HTV yng Nghaerdydd mewn amrywiaeth o swyddi fel perfformio, cyfansoddi, sgriptio, ymchwilio a chyflwyno. Symudodd yn ôl i'r Gogledd ym 1990 a chael gwaith fel is-gynhyrchydd rhaglenni adloniant ysgafn yng Nghwmninghwmni [[Teledu'r Tir Glas]] yng Nghaernarfon. Yn 1994 daeth yn o gyfarwyddwyr cwmni Teledu Gwdihw oedd yn cynhyrchu rhaglenni dogfennol, adloniant ysgafn a cherddoriaeth i S4C a'r BBC yn bennaf. Yn 2000 sefydlodd RYGARUG gyda'i gŵr, cynllun celfyddydau perfformio i bobol ifanc Dyffryn Peris a'r cylch a cynhyrchwyd 4 sioe gerdd yn Theatr Seilo, Theatr Gwynedd a Galeri Caernarfon.
 
Yn yr 1980au bu'n perfformio gyda sawl band, yn cynnwys lleisiau cefndir ar gyfer [[Omega (band)|Omega]], [[Ar Log]] a [[Steve Eaves]]. Roedd hefyd yn chwarae'r allweddellau ac yn brif leisydd y grŵp [[Pryd ma' Te]].