Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Fedora Barbieri"

Ychwanegwyd 4 beit ,  blwyddyn yn ôl
B
B
Rhoddodd ei pherfformiad cyntaf fel cantores broffesiynol yn Fflorens ym 1940. Rhoddodd gorau berfformio am gyfnod wedi ei phriodas ym 1943. Daeth yn ôl i'r llwyfan ym 1945. Roedd yn un o'r perfformwyr cyntaf i berfformio mewn operâu cynnar gan [[Claudio Monteverdi|Monteverdi]] a [[Giovanni Battista Pergolesi|Pergolesi]]. Daeth ei pherfformiad cyntaf yn y [[La Scala|Teatro alla Scala]], lle'r oedd i gael ei llwyddiannau mwyaf, ym 1942, gyda pherfformiad o 9fed Symffoni [[Ludwig van Beethoven]], a arweiniwyd gan Victor de Sabata.
 
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y [[Metropolitan Opera]] ar 6 Tachwedd 1950, yn rôl y Dywysoges Eboli yn ''[[Don Carlos]]'' gan [[Giuseppe Verdi|Verdi]]. Yn gyfan gwbl, rhoddodd 96 o berfformiadau o 11 o operâu yn y tŷ hwnnw. Canodd rhan Eboli hefyd yng nghynhyrchiad enwog Luchino Visconti ar gyfer canmlwyddiant y [[Tŷ Opera Brenhinol]], [[Covent Garden]], ym 1958.<ref>[https://www.theguardian.com/news/2003/mar/19/guardianobituaries.artsobituaries The Guardian 9 Mawrth 2003 Obituaries Fedora Barbieri] adalwyd 1 Mai 2019</ref>
 
Ym 1956, ffilmiodd y fezzo-soprano Mistress Quickly, yn ''[[Falstaff (opera)|Falstaff]]'', ar gyfer RAI, dan arweiniad Tullio Serafin a'i gyfarwyddo gan Herbert Graf, gyda Giuseppe Taddei a Scipio Colombo.