Wicipedia:WiciBrosiect Addysg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 375:
 
== Fideo ==
Mae pobl ifanc yn defnyddio fideo yn gynyddol fel offeryn addysgol a byddant yn ymgysylltu'n rhwydd â fideos byr er mwyn cael mynediad i gwybodaeth. Dyma [https://commons.wikimedia.org/wiki/Category:Project_WiciAddysg gyfres o '''20''' fideo] byr sydd wedi eu cynnwys yn yr erthyglau perthnasol.
 
Roedd pob fideo’n crynhoi darnau o erthyglau a oedd yn bwriadu , neu a oedd wedi, cael eu creu ar gyfer Wicipedia, a hynny er mwyn gwella’r mynediad at wybodaeth yn y Gymraeg i blant ysgol. Bydd y fideos hefyd yn cael eu rhyddhau ar HWB.
Llinell 395:
</gallery>
 
Mae'r fideos'''7''' fideo isod wedi cael i greu gan bobol ifanc er mwyn esbonio sut i gyfranni i Wicipedia. Gofynnwyd i 5 o bobl ifanc recordio’u hunain yn rhoi gwers diwtorial ar sut i olygu’r Wicipedia Cymraeg. Yn ffodus, roedd gennym griw o bobl ifanc a oedd yn barod i helpu. Roedd hyn oherwydd y fideo a waned ar gyfer y modiwl ‘Her y Gymuned’, fideo a oedd yn cael ei gynnig fel rhan o’r Fagloriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, braf oedd cael croesawu hen wynebau, sef cyn disgyblion o ysgol David Hughes, Ysgol Gyfun Llangefni, a disgyblion presennol Ysgol Uwchradd Bodedern. Roedd y disgyblion rhwng 17 -19.
Y pwrpas tu ôl i’r prosiect hwn oedd diweddaru’r fideos tiwtorial Wicipedia Cymraeg ar wefan Wici, gan fod rhai o’r fideos wedi’u dyddio. Felly roedd cael pobl ifanc i gymryd rhan yn siŵr o ddenu to ifanc newydd.
Roedd y fideos yn rhai byr, gan dynnu sylw at technegau pwysicaf Wicipedia. Roedd y fideos yn cynnwys y canlynol: Creu enw defnyddiwr, golygu, ychwanegu penawdau, dolenni, ffynonellau, lluniau ayyb. Roedd y bobl ifanc yn recordio’u hunain gan ddefnyddio Zoom/ffonau symudol. Defnyddiwyd rhaglen broffesiynol i olygu’r fideos.