Astudiaethau Celtaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
 
== Beirniadaeth ==
Ymysg beirniaid Astudiaethau Celtaidd oedd [[Robert Thomas Jenkins|R. T. Jenkins]], a ysgrifennodd ym 1936:
{{dyfyniad|Y gwir yw, mae'n debyg, na allaf oddef '[[Celtigrwydd]]' yn unrhyw un o'i ffurfiau, a bod Llydaw'n dioddef yn fy ngolwg oherwydd ymdrechion annoeth rhai pobl i sylfaenu hanes ac athroniaeth ar ffaith ieithegol—i haeru mai'r un bobl, bron iawn, yw [[Cymry]] a [[Gwyddyl]] a [[Llydawiaid]] 1936, am fod hynafiaid rhai ohonynt (''rhai'' ohonynt) wedi bod yn siarad yr un iaith ganrifoedd lawer iawn yn ôl.<ref>Jenkins, R. T. Jenkins, ''[[Cwpanaid o De a Diferion Eraill]]'' (Dinbych, 1997), t. 37, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn ''[[Y Llenor]]'' (1936).</ref>}}
 
Ym Medi 1998, ysgrifennodd [[Simon Brooks]] [[erthygl olygyddol]] yng nghylchgrawn [[Barn (cylchgrawn)|Barn]] o'r enw "Iwerddon, y Celtiaid a Ni" oedd yn beirniadu Astudiaethau Celtaidd yn llym:
{{dyfyniad|Yn fy nhyb i, ''fraud'' deallusol anhygoel yw Astudiaethau Celtaidd, a'i phrif gyflawniad yw cadw Cymry rhag astudio problemau eu hoes eu hunain.<br/>Y gwir amdani yw mai syniad [[Lloegr|Seisnig]] yw 'Celtigrwydd' sy'n gynnyrch [[mudiad rhamantaidd]] y bedwaredd ganrif ar bymtheg.<ref>Brooks, S. Brooks, ''Yr Hawl i Oroesi'' (Gwasg Carreg Gwalch, 2009), t. 106, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn ''Barn'' (rhifyn 428, (Medi 1998).</ref>}}
Aeth ymlaen i gymharu Celtigrwydd â syniadau [[Edward Said]] o [[Orientalism|Orientaliaeth]], a honni taw ffordd o [[trefedigaethu|drefedigaethu]] yw e.