Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ann Griffiths"

Ychwanegwyd 5 beit ,  6 mis yn ôl
B
Roedd brodyr hŷn Ann, John ac Edward,<ref>{{Cite web|title=Griffiths [née Thomas], Ann (bap. 1776, d. 1805), hymn writer in Welsh {{!}} Oxford Dictionary of National Biography|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-11614|website=www.oxforddnb.com|access-date=2019-08-27|doi=10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-11614|language=|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> eisoes wedi cael tröedigaeth i'r achos Methodistaidd ond roedd Ann wrthwynebus i grefydd newydd Methodistaidd ei brodyr. Roedd Ann yn mwynhau arferion yr oes, - y nosweithiau llawen, y ddawns, a'r anterliwtiau. Byddai'n arfer gwawdio'r pererinion Methodistaidd oedd yn pasio trwy gymdogaeth Dolwar ar eu ffordd i'r Bala, i'r cymanfaoedd a'r gwasanaethau cymun mawr.
 
Ar [[28 Mawrth]] [[1796]], dydd mabsant [[Sant Myllin]], roedd Ann ar ei ffordd i ddawns yn Llanfyllin. Ar y ffordd gwelodd ferch a fu'n arfer gweithio yn Nolwar Fach. Roedd y ferch am fynd i wrando ar bregeth gan un o bregethwr amlwg yr Annibynwyr, [[Benjamin Jones, Pwllheli]].<ref>{{Cite web|title=JONES, BENJAMIN (1756 - 1823), gweinidog gyda'r Annibynwyr {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-BEN-1756|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2019-08-27}}</ref>. Cytunodd Ann i fynd i wrando arno. Cafodd y bregeth effaith fawr arni a bu am fisoedd mewn gwewyr meddw wrth bendroni dros neges y bregeth. Ar fore'r Nadolig 1797 aeth Ann i wasanaeth y Plygain yn Eglwys Llanfihangel, ac wedi cyrraedd yn rhy gynnar cyfarfu a chiwrad yr eglwys a chael gwahoddiad i'w dŷ i ddisgwyl dechrau'r oedfa. Yn y tŷ fe wnaeth y ciwrad sylwadau anweddus a phenderfynodd Ann droi ei chefn ar yr Eglwys. Aeth i wrando ar bregethwyr y Methodistiaid a'r diwedd fu iddi ymuno a'i brodyr yn seiat y Methodistiaid ym Mhontrobert .<ref name=":0" />
 
==Priodas a marwolaeth==