Y Milwyr Du a Melyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
ffynhonnell
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:A Black and Tan on duty in Dublin.jpg|bawd|Milwr Du a Melyn ar gornel stryd yn Nulyn (Chwefror 1921).]]
Aelodau ychwanegol yr Heddlu Gwyddelig Brenhinol oedd '''y Milwyr Du a Melyn'''<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', "tan: the Black and Tans".</ref> ({{iaith-en|Black and Tans}}, {{iaith-ga|Dúchrónaigh}}) a recriwtiwyd gan [[llywodraeth y Deyrnas Unedig|lywodraeth y Deyrnas Unedig]] yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon]] (1919–21). O ganlyniad i brinder o’r wisg reolaidd, derbyniodd y recriwtiaid siacedi a throwsus [[caci]] a chapiau gwyrdd tywyll. Bu nifer ohonynt yn gyn-filwyr [[y Rhyfel Byd Cyntaf]] neu yn gyn-garcharorion. Ymatebasent i dactegau herwfilwrol yr [[Byddin Weriniaethol Iwerddon (1916–22)|y Fyddin Weriniaethol]] (IRA) dan arweiniad [[Michael Collins]] drwy dalu’r pwyth yn ôl yn aml yn erbyn y boblogaeth sifil. Ar [[Sul y Gwaed (1920)|Sul y Gwaed]], 21 Tachwedd 1920, lladdwyd nifer o gudd-swyddogion [[y Fyddin Brydeinig]] gan yr IRA yn [[Dulyn|Nulyn]], ac yn ddial aeth carfan o’r Filwyr Du a Melyn i gêm pêl-droed Wyddelig ym [[Parc Croke|Mharc Croke]] a saethu ar y dorf, gan ladd 14 o bobl. Cafodd trefi cyfan eu brawychu, gan gynnwys Anrheithiad [[Balbriggan]], Gwarchae [[Tralee]], a Thân [[Corc]]. Bu’r fath gamdriniaethau ond yn cryfhau achos y Gweriniaethwyr yn Iwerddon, ac yn codi banllef o brotest ym Mhrydain ac yn Unol Daleithiau America. Enciliwyd y Milwyr Du a Melyn yn sgil arwyddo’r [[Cytundeb Eingl-Wyddelig]] ym 1921.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{DEFAULTSORT:Milwyr Du Melyn}}