YesCymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 21:
Yn 2017 cyhoeddodd y mudiad lyfryn ddwyieithog maint A6 o'r enw 'Annibyniaeth yn dy Boced' ('Independence in your pocket'). Argraffwyd y llyfr gan [[Y Lolfa|Gwasg y Lolfa]]. Rhoddwyd fersiwn pdf am ddim o'r llyfr ar wefan YesCymru yn ogystal â'r copi print.
 
[[File:Gludyn YesCymru Aberystwyth.jpg|bawd|chwith|Sticyr YesCymru]]
==Radio YesCymru==
Darlledwyd [[Radio YesCymru]] ar y we yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Darlledwyd ar wefan cymru.fm a hefyd [[Radio Beca]]. Roedd y darllediadau byw rhwng 5.00 - 7.00pm nosweithiau Mercher, Iau a Gwener 8-19 Awst. Recordiwyd y rhaglenni o swyddfa Indycube ar Sgwâr Mount Stewart. Cyflwynwyd y rhaglenni gan [[Siôn Jobbins]] a cafwyd cyfweliadau amrywiol gyda chenedlaetholwyr gan gynnwys [[Rhun ap Iorwerth]], [[Adam Price]], [[Eurfyl ap Gwilym]], y llenor [[Catrin Dafydd (llenores)|Catrin Dafydd]] (enillydd Cadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018|Eisteddfod Caerdydd]]), [[Huw Marshall]], [[Llwyd Owen]] a [[Gareth Bonello]].