Peter Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 26:
Emyn sydd yn boblogaidd iawn o hyd, nid yn unig mewn [[Capel|capeli]], ond hefyd mewn gemau [[rygbi]] a [[Tafarn|thafarnau.]]
 
Ddau lyfr pwysicaf Williams o ran ei ddylanwad ar Fethodistiaid oedd ei FynegaiFynegair Ysgrythurol; <ref>[[iarchive:eminentwelshmens00robe/page/582/mode/2up|Roberts, Thomas Rowland; Eminent Welshmen; The Educational Publishing Company, Ltd.(1908) tud 583. Erthygl: Peter Williams]] adalwyd 20 Hydref 2020</ref> llyfr o brif eiriau'r [[Y Beibl|Beibl]] yn nhrefn y wyddor gyda chyfeiriad at adnodau lle mae modd eu canfod; a'i Feibl esboniadol, argraffiad o'r Beibl gyda sylwadau ar bob un bennod. Cyhoeddwyd y rhifyn gyntaf ym 1770 a chafodd ei ail gyhoeddi 37 o weithiau. Er gwaethaf poblogrwydd ''Beibl Peter Williams'' bu'n achos rwyg rhwng Williams a'r Methodistiaid. O herwydd poblogrwydd y Beibl esboniadol gofynnodd un o weinidogion y Bedyddwyr, Dafydd Jones o Bont-y-pŵl, am gymorth Williams i greu fersiwn Cymraeg o ''Feibl Poced'' John Canne. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf ym 1790. Cyhuddodd Nathanial Rowland, mab [[Daniel Rowland]], Williams o newid geiriad dau o'r adnodau er mwyn cefnogi'r heresi Sabelaidd. Sabeliaeth yw'r gred bod y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân yn dair nodwedd wahanol o Dduw, yn hytrach na thri pherson gwahanol wedi eu huno yn y Duwdod. <ref>{{Cite web|title=Sabellianism {{!}} Christianity|url=https://www.britannica.com/topic/Sabellianism|website=Encyclopedia Britannica|access-date=2020-10-16|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Yng Nghymdeithasfa'r De yn [[Llandeilo]], ar [[25 Mai]] [[1791]], cafodd Williams ei ysgymuno a'i wahardd rhag gwerthu'r Beibl newydd ymhlith y Methodistiaid. Cymeradwywyd y condemniad gan Gymdeithasfa'r Gogledd yn y [[Bala]] ar [[8 Mehefin]]. Yn ei gofiant iddo yn yr [[Oxford Dictionary of National Biography|ODNB]] mae'r diwinydd a hanesydd [[R. Tudur Jones|Y Parch Dr Tudur Jones]] yn dweud am yr anghydfod: <ref name=":0" />
{{Dyfyniad|''A lack of clarity in his thinking still makes it difficult to ascertain the precise nature of the heresy for which he was excommunicated.''}}
 
Llinell 34:
 
* ''Blodau i Blant'' (1758)
* ''MynegeiMynegair Ysgrythurol'', (1773)
* ''Galwad gan wyr eglwysig'' (1781)
* ''Cydymaith mewn Cystudd'' (1782)