Crynwriaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ymwreiddiodd '''Crynwriaeth yng Nghymru''' ar ddechrau'r [[1660au]] o dan genhadaeth [[Siôn ap Siôn]]. Er iddynt ostwng mewn niferoedd a dylanwad ar ôl yr [[17g]], mae [[Crynwyr]] [[Cymru]] wedi chwarae rhan fwy pwysig yn [[hanes Cymru]] nag y mae eu nifer yn awgrymu ac mae eu mudiad, [[Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion]] (''Religious Society of Friends'') yn dal yn weithgar heddiw.
 
Y Sais [[George Fox]] (1624-1691) a sefydlodd Crynwriaeth a Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion yn [[Lloegr]]. Un o'i ddisgyblion cynnar oedd y [[Bedyddwyr|Bedyddiwr]] Rice Jones, Cymro yn byw yn [[Nottingham]]. Roedd y llenor [[Morgan Llwyd]] o Wynedd a'i gyd-[[Piwritaniaeth|Biwritan]] [[Vavasor Powell]] yn agored i neges y Cynwyr hefyd, a diau fod eu gwaith cenhadol ym [[Meirionnydd]] (Llwyd) a [[Maldwyn]] (Powell) yn gyfrifol am y ffaith mai yn yr ardaloedd hynny yn bennaf y dygodd Crynwriaeth ffrwyth yn ail hanner yr 17g.