John Ystumllyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 10:
Garddwr o Gymro oedd '''John Ystumllyn''' (bu farw [[1786]]), a elwir hefyd yn '''Jac Du''' neu '''Jack Black'''. Roedd un o'r bobl ddu gyntaf yng Nghymru i gael hanes ei fywyd wedi ei gofnodi.
Nid oes sicrwydd o le'r oedd John yn hannu. Mae'n bosib ei fod wedi ei gipio ar gyfer [[Masnach gaethweision yr Iwerydd|masnach gaethweision]] yr [[Masnach gaethweision yr Iwerydd|Iwerydd]], naill ai o [[Gorllewin Affrica|Orllewin Affrica]] neu India'r Gorllewin. Pan oedd tua 8 mlwydd oed, fe'i gymerwyd gan deulu Wynn i'w stad Ystumllyn yn [[Cricieth]], lle cafodd ei fedyddio, a chafodd yr enw Cymraeg John Ystumllyn.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/54329475|teitl=John Ystumllyn a stori pobl ddu 'gyntaf' Cymru|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=1 Hydref 2020|dyddiadcyrchu=22 Hydref 2020}}</ref> Yma cafodd ei "ddofi", a dysgwyd Saesneg a Chymraeg iddo gan y bobl leol. Dysgodd [[Garddwriaeth|arddwriaeth]] a chrefftwaith, ac roedd ganddo medr naturiol i'r gwaith
Wrth i Margaret symud i wahanol swyddi, dilynodd Ystumllyn hi, ac yn y pen draw rhedodd i ffwrdd o'i swydd fel garddwr i briodi ym 1768. Ganwyd saith o blant iddyn, gyda pump yn goroesi, a mae nifer o’u disgynyddion yn dal i fyw yn yr ardal erbyn yr 21G. Buont yn gweithio fel stiwardiaid tir i ddechrau, ond yn y pen draw ailymunodd Ystumllyn â chyflogaeth teulu Wynn. I gydnabod ei wasanaeth, rhoddodd Ellis Wynn ardd a bwthyn mawr, hynafol i Ystumllyn yn Y Nhyra Isa. Bu farw Ystumllyn ym 1786, gyda'i wraig yn marw ym 1828, dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.
|