Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9:
=Gilmore a Roberts=
[[File:GilmoreRoberts01LB.jpg|bawd|chwith|250px]]
Mae '''Gilmore a Roberts''' yn ddeuawd werinol o De [[Swydd Efrog]]. Mae [[Katriona Gilmore]] yn chwarae [[ffidil]] a [[mandolin]] a [[Jamie Roberts]] yn chwarae [[gitar]]. Astudiodd y ddau yn [[Coleg Cerddoriaeth Leeds|Ngholeg Cerddoriaeth Leeds]].<ref>[https://www.gilmoreroberts.co.uk/about/biography/ Gwefan Gilmore a Roberts]</ref> Maent wedi rhyddhau 5 CD ers 2008.<ref>[https://www.discogs.com/artist/4970856-Gilmore-Roberts Gwefan discogs.com]</ref>
 
Magwyd Katriona Gilmore yn [[Knebworth]], [[Swydd Hertford]] Roedd hi’n aelod o [[Tiny Tin Lady]], a daeth hi’n aelod o’r [[Albion Band]] yn 2011 ac wedyn o’r band [[The Willows]] yn 2011.<ref>[https://www.wickhamfestival.co.uk/artist/gilmore-roberts/ Gwefan Gŵyl Wickham]</ref>
 
Magwyd [[Jamie Roberts]] yn [[Barnsley]], Swydd Efrog. Mae ei chwaer [[Kathryn Roberts]] yn gantores adnabyddus. Daeth o’n aelod o’r band [[Kerfuffle]] yn 2007, ffurfiodd y [[Dovetail Trio]] yn 2014, ac ymunodd â band [[Emily Askew]] yn 2016.<ref>[https://www.wickhamfestival.co.uk/artist/gilmore-roberts/ Gwefan Gŵyl Wickham]</ref>