Caleb Morris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 8:
Wedi derbyn tröedigaeth efengylaidd pan oedd tua 14 mlwydd oed ymunodd Morris a'r Annibynwyr ym Mhen y Groes, Sir Benfro, a dechreuodd bregethu yn weddol fuan wedi ei dderbyn yn aelod. Wedi cyfnod o gyd weithio gyda'i dad fel crydd dychwelodd i addysg gan ddod yn efrydydd yn athrofa ragbaratoawl i ddarpar weinidogion Caerfyrddin o 1819 hyd 1822. Wedi ymadael a'r athrofa derbyniodd alwad i fod yn weinidog y Tabernacl, [[Arberth]], lle cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth ar [[2 Ebrill]], [[1823]]. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2325605/2326305/24#?xywh=110%2C1243%2C2034%2C1322 Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. II rhif. 9 - Medi 1823, tud 281 - Urddiad.]</ref> Bu'n weinidog yn Arberth am bedair blynedd. Ym 1827 symudodd i Lundain i fod yn weinidog cynorthwyol i'r Parch [[George Burder]] <ref>[https://doi.org/10.1093/ref:odnb/3958 ODNB Burder, George]</ref> yn Eglwys yr Annibynwyr Saesneg yn Fetter Lane, [[Llundain]]. Roedd Burder yn un o weinidogion mwyaf ei enwad ar y pryd. Pum mlynedd ar ôl i Morris dod yn ddirprwy iddo bu farw Burder ym 1832 a syrthiodd holl bwysau ei weinidogaeth ar Morris a oedd, o hyd, yn ŵr ifanc a gweddol ddibrofiad.
 
Er iddo ddod yn olynydd teilwng i'w rhagflaenydd, gyda chynulliadau mawr yn dod i wrando arno yn y capel a galwadau lluosog fel pregethwr gwadd trwy Brydain penbaladr bu'r pwysau yn ormod i'w iechyd meddwl a chorfforol. Aeth yn ôl i Sir Benfro i geisio adfer ei iechyd ym 1835 am gyfnod o chwe mis cyn rho'r gorau i'w weinidogaeth yn Llundain ym 1849.
 
Bu'n weinidog ar Annibynwyr [[Eccleston, Swydd Gaer|Ecclestone]], [[Swydd Gaerhirfryn]] am gyfnod cyn rhoi'r gorau i'r weinidogaeth yn llwyr tua 1850. Dychwelodd i Benfro lle fu'n cadw tyddyn am weddill ei oes.