William Jones, Abergwaun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Dechreuodd Jones ei yrfa fel mowldiwr yng ngwaith Haearn Brymbo. <ref> Yr Archif Genedlaethol. Cyfrifiad 1851 ar gyfer Wern, Brymbo, Sir Ddinbych. Cyfeirnod HO107/2502, Ffolio 282, Tudalen 24</ref>
 
Derbyniwyd Jones yn aelod o eglwys y Bedyddwyr ym Mrymbo ar ddiwedd 1853. Dechreuodd bregethu ym 1855. Aeth i [[Athrofa'r Bedyddwyr, Hwlffordd|Athrofa'r Bedyddwyr yn [[Hwlffordd]] ym 1858. Ym 1860 cafodd ei ordeinio yn weinidog ar gapel Bedyddwyr Pen-y-fron, [[Sir y Fflint]]. Ar gychwyn 1864 derbyniodd alwad oddi wrth yr eglwys ym [[Bargod|Margod]], [[Sir Fynwy]]. Bu'n weinidog ym Margod am bum mlynedd cyn derbyn galwad i wasanaethu yn Hermon, [[Abergwaun]] ym 1869. Ym 1883 ymadawodd oddi yno, gan gymryd gofal Capel Cymraeg y Bedyddwyr yn Heol y Castell, [[Llundain]]. Ni fu ei arhosiad yn Llundain yn hir. Yn Ionawr, 1885, dychwelodd yn ôl drachefn i Hermon, Abergwaun, ac yno y bu am ddeng mlynedd olaf ei oes. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3451606|title=Marwolaethau - Y Cymro|date=1895-04-04|accessdate=2020-02-10|publisher=Isaac Foulkes}}</ref>
 
Gwasanaethodd fel Cadeirydd cymanfa Penfro'r Bedyddwyr ym 1878, a llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig ym 1894.