Athrofa'r Bedyddwyr, Hwlffordd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Athrofa Hwlffordd''' yn goleg a sefydlwyd gan y Bedyddwy<nowiki/>r i baratoi myfyrwyr i ddod yn Gweinidog yr Efengyl|wei...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Ar [[3 Tachwedd]] [[1835]] cynhaliwyd cyfarfod o'r Bedyddwyr yng Nghapel y Tabernacl, Heol y Prior, [[Caerfyrddin]] i drafod agor athrofa i'r Bedyddwyr yn [[Hwlffordd]]. Wedi cael trafodaeth ar bwysigrwydd "gwybodaeth a dysgeidiaeth mewn Gweinidogion Efengyl", a chanfod "yn eglur annerbynioldeb gweinidogaeth y diddysg a'r anwybodus yn yr oes hon" penderfynwyd yn unfrydol i godi arian at y gwaith o'i sefydlu. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2267394/2418886/19#?xywh=-61%2C1505%2C1516%2C985 Seren Gomer Cyf. XVIII - Rhif. 243 - Rhagfyr 1835 ATHROFA HWLFFORDD] adalwyd 23 Hydref 2020</ref>
 
Agorwyd yr athrofa ymar [[1 Awst]] [[1839]], a phenodwyd [[David Davies, Hwlffordd|Y Parch. David Davies]], yn bennaeth ac athro Diwinyddol arni. <ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-DAV-1800 DAVIES, DAVID (1800? - 1856), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig] adalwyd 23 Hydref 2020</ref> Roedd Davies wedi bod yn weinidog ar gapel y Bedyddwyr yn [[Evesham]], [[Swydd Gaerwrangon]], ac wedi dychwelyd i Hwlffordd, lle cafodd ei fagu i fod yn weinidog ym 1837. Er mwy'n sicrhau sefydlu llwyddiannus cytunodd Davies ddysgu am ddim hyd fod digon o fyfyrwyr i gyfiawnhau rhoddi cyflog iddo. Dau fyfyriwr oedd pan agorodd yr athrofa Thomas Richards o Felinganol, a fu farw cyn diwedd ei gyfnod hyfforddiant a David Evans o Gilfowyr, Maenordeifi  a aeth wedyn i fod yn weinidog yn Dudley, Swydd Caerwrangon. Y mis Hydref canlynol daeth tri arall i gynyddu'r rhif i bump. <ref>[https://play.google.com/store/books/details?id=I09iAAAAcAAJ&rdid=book-I09iAAAAcAAJ&rdot=1 Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr yn Sir Fynwy ... Gan Rufus (D J Thomas & Cwmni 1863) tud 77] adalwyd 23 Hydref 2020</ref> Ym 1840 daeth y Parch. Thomas Gabriel Jones i'r athrofa fel athro'r clasuron. Roedd Jones wedi bod yn weinidog gyda'r [[Annibynwyr]] yn [[Dowlais|Nowlais]] ond trodd at y Bedyddwyr ym 1829 ac aeth i gadw ysgolion yn [[Y Rhondda]] a [[Cwm Tawe|Chwm Tawe]]. <ref>[https://journals.library.wales/view/2104777/2977532/3#?xywh=-169%2C-51%2C2242%2C1457 Seren yr Ysgol Sul Cyf. 10 rhif. 110 - Chwefror 1904 Thomas Gabriel Jones] adalwyd 23 Hydref 2020</ref>. Ymadawodd Jones ym 1853, a daeth y Parch Thomas Burdett, M.A., yn ei le. Ymddeolodd Burdett ym 1865
 
Bu farw'r pennaeth David Davies ym 1856. Penodwyd y Parch Dr Thomas Davies o Ferthyr yn bennaeth newydd. <ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-THO-1812 DAVIES, THOMAS (1812 - 1895), gweinidog Bedyddwyr a phrifathro coleg yr enwad yn Hwlffordd. Y Bywgraffiadur Cymreig.] Adferwyd 23 Hyd 2020</ref> Ym 1864 roedd deg ar hugain o fyfyrwyr yn yr Athrofa a phenderfynwyd bod angen adeilad mwy ar eu cyfer. Prynwyd adeilad yn 1867 am £3000. Bu'r Parchn G. H. Rouse, James Sully, William Edwards (pennaeth Athrofa Pont-y-pŵl wedyn) <ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EDWA-WIL-1848, EDWARDS, WILLIAM (1848 - 1929), gweinidog a phrifathro gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig.] Adferwyd 23 Hyd 2020</ref> a [[Thomas Witton Davies]] <ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-WIT-1851 DAVIES, THOMAS WITTON (1851 - 1923), Hebreigydd ac ysgolhaig Semitaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig.] Adferwyd 23 Hyd 2020 </ref>ar y staff. Ym 1894 ymddeolodd Thomas Davies a symudwyd yr Athrofa i [[Aberystwyth]]. Yr athrawon yn Aberystwyth oedd y Parchn. J. A. Morris, D.D., a Thomas Williams, B.A. Ym 1899 caeodd yr athrofa a rhannwyd y cronfeydd rhwng y ddwy athrofa yng Nghaerdydd a Bangor.