Galisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 33:
 
Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, [[Galisieg]], sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i [[Portiwgaleg|Bortiwgaleg]] na [[Sbaeneg]]. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae [[Pedro Pardo de Cela]] (c. 1425 - [[17 Rhagfyr]] [[1483]]). Ystyrir [[Ramón Piñeiro]] ([[31 Mai]] 1915 - 27 Awst 1990) yn [[Athronydd]], [[awdur]] a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi [[Rhyfel Cartref Sbaen]].
 
Roedd [[Rosalía de Castro]] (24 Chwefror 1837 – 15 Gorffennaf 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth ''Cantares gallegos'' (Cantoriaion Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel ''Día das Letras Galegas'' - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn [[Galisia]].
 
Prif drefi Galisia yw: