Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y rhyngrwyd"

Lleihawyd o 3,506 beit ,  blwyddyn yn ôl
Gwacawyd y dudalen a gosod y canlynol yn ei lle: 'Report Spam cy.m.wikipedia.orgSystem gysylltiedig o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang, sydd ar gael i'r cyhoedd, yw'r'
(→‎Hanes y rhyngrwyd: cywiro gwallau using AWB)
(Gwacawyd y dudalen a gosod y canlynol yn ei lle: 'Report Spam cy.m.wikipedia.orgSystem gysylltiedig o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang, sydd ar gael i'r cyhoedd, yw'r')
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol Replaced Reverted
Report Spam cy.m.wikipedia.orgSystem gysylltiedig o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang, sydd ar gael i'r cyhoedd, yw'r
{{rhyngrwyd}}
System gysylltiedig o [[rhwydwaith cyfrifiadurol|rwydweithiau cyfrifiadurol]] byd-eang, sydd ar gael i'r cyhoedd, yw'r '''rhyngrwyd''' ac sy'n gwasanaethu biliynau o ddefnyddwyr. Mae'n trosglwyddo amrywiaeth o ddata gan gynnwys [[llun]]iau, [[sain]], [[fideo]] a thestun, ac yn cludo amrywiaeth o wybodaeth a gwasanaethau. Trosglwyddir y data hyn gyda'r safon [[Protocol Rhyngrwyd]] (IP).
Y gwasanaethau mwyaf amlwg yn strwythur y rhyngrwyd yw'r [[Gwe fyd-eang|we fyd-eang]] (WWW) ac [[e-bost]], a hefyd gwasanaethau sgwrsio a throsglwyddo ffeiliau. Mae'r defnyddrwyd ('usenet' neu 'newsnet') hefyd yn bodoli ar y rhyngrwyd, ond nid mor boblogaidd bellach. Hyd at ddiwedd y 2000au roedd angen [[cyfrifiadur]] i gysylltu â'r rhyngrwyd, ond yna gwelwyd y cyfryngau traddodiadol i gyd yn cael eu hailbobi i gario rhan o'r rhyngrwyd e.e. y [[ffôn]], systemau cerdd, [[ffilm]] a'r [[teledu]]. Gwelwyd hefyd cyhoeddwyr yn addasu ar gyfer y dechnoleg newydd er mwyn dosbarthu eu cynnyrch; yng Nghymru er enghraifft bu [[Gwasg y Lolfa]]'n flaenllaw iawn yn gwerthu [[e-lyfrau]] a [[Golwg360]] yn [[papur newydd|bapur newydd]] digidol.
 
[[Delwedd:Internet map 1024.jpg|170px|bawd|chwith|Argraff arlunydd o sut mae'r rhyngrwyd yn edrych]]
Nid yw'r rhyngrwyd a'r [[Gwe fyd-eang|we fyd-eang]] yn gyfystyr. Casgliad o ddogfennau [[hyperdestun]] yw'r we, a defnyddir y rhyngrwyd (sy'n llawer mwy na'r we) i gael mynediad i'r dogfennau hyn.
 
== Hanes y rhyngrwyd ==
Crewyd y rhyngrwyd yn yr [[UDA|Unol daliaethau America]] ar ffurf rhwydwaith o gyfrifiaduron yn 1969 gan adran amddifynnol y llywodraeth. Pwmpiwyd arian i'r cynllun gan y ''National Science Foundation'' (ac arian preifat) yn y 1980au a chysylltwyd y cyfan gan linell ffôn. Erbyn 2012 roedd 2.4 biliwn o bobl ledled y byd - dros draean poblogaeth y byd - wedi defnyddio gwasanaethau'r rhyngrwyd.<ref name="stats">{{cite web|url=http://www.internetworldstats.com/stats.htm|title=World Stats|date=|Mehefin 30, 2012|work=Internet World Stats|publisher=Miniwatts Marketing Group}}</ref>
[[Delwedd:First Web Server.jpg|bawd|dde|Cyfrifiadur ''NeXT'' a ddefnyddiwyd gan Tim Berners-Lee yn [[CERN]] ac a ddaeth yn [[gweinydd|weinydd gwe]] cyntaf drwy'r byd.]]
 
Cafodd y We fyd-eang ei chreu yn [[CERN]] yn [[y Swistir]] yn yr 1990'au gan Sais o'r enw [[Tim Berners-Lee]] i gysylltu gwyddonwyr gyda'i gilydd. Mae'r enw "net" yn dod o'r term Saesneg llawn "the internet" a'r gair "internet" yn ei dro'n dalfyriad o "inter-" a "networking" i creu "internetworking" (rhyngrwydweithio).<ref>{{cite encyclopedia |encyclopedia=[[Oxford English Dictionary]] |title=Internet, n. |url=http://dictionary.oed.com/cgi/entry/00304286 |accessdate=26 October 2010 |edition=Draft |date=March 2009 |quote=Shortened < INTERNETWORK n., perhaps influenced by similar words in -net}}</ref> Defnyddir priflythyren yn yr enw ("y Rhyngrwyd") a llythyren fach pan fo'r gair yn ansoddair "marchnata rhyngrwyd" yn Saesneg ac yn y Gymraeg.<ref>[http://www.chicagomanualofstyle.org/16/ch07/ch07_sec076.html?para= "7.76 Terms like 'web' and 'Internet'"], ''Chicago Manual of Style'', University of Chicago, 16ed rhifynn</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Gweler hefyd ==
* [http://www.hanesywegymraeg.com/ Hanes y We Gymraeg]
* Y [[We Fyd-eang]] (WWW)
* [[Blogiau]]
 
== Dolenni allanol ==
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}
* [http://www.bangor.ac.uk/is/termau/ Termau Cyfrifiadurol Cymraeg - Prifysgol Bangor.]
 
{{DEFAULTSORT:Rhyngrwyd, Y}}
[[Categori:Y rhyngrwyd| ]]
[[Categori:Cyfrifiaduro]]
[[Categori:Cyfryngau digidol]]
[[Categori:Rhwydweithiau ardal eang]]
[[Categori:Telegyfathrebu]]
Defnyddiwr anhysbys