Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 257:
 
:::Diolch Craigysgafn! Roedd eu dileu'n benderfyniad anodd, oherwydd roedd nifer o luniau da ymhlith y rhai a ddilewyd. Fe ddadleuwn i mai 'gwaith CommonsDelinker YW dod o hyd iddo a'i amnewid', a dw i wedi dadlau hyn droeon ar Comin ee pan ddilewyd File:Castell-Madryn.jpg yn [https://commons.wikimedia.org/wiki/Commons_talk:Deletion_requests/File:Castell-Madryn.jpg y fan yma]. Felly roedd na ddolen goch i nunlle ar yr erthygl - rhywbeth cwbwl annerbyniol! Mae CommonsDelinker yn gwneud hyn (ffeirio am lun gwell, yn htrach na jyst dileu). Ond ti'n llygad dy le - mae angen sgript peithon i greu rhestr o erthyglau lle ceir dolenni coch fel hyn, fel y gallwn fynd drwyddyn nhw fesul un a'u dileu! Cofion cynnes! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 07:55, 20 Hydref 2020 (UTC)
 
== Prosiect Wicipics ==
 
Helo pawb.
 
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol a Menter Iaith Môn wedi cychwyn prosiect newydd i casglu delweddau o adeiladau hanesyddol. Mae modd i unrhyw un cyfrannu at [https://blog.llyfrgell.cymru/wicipics/ Wicipics]. Fel rhan o'r brosiect mae'r [[Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru]] wedi rhannu data o'r gronfa Capeli Cymru ac felly mae'r holl gapeli yng Nghymru ar gael ar Wikidata erbyn hyn - er bod dal gwaith i wneud i gynnwys enwau (labeli) Cymraeg. Felly mae 'na bwyslais yma ar gasglu delweddau o'n gapeli i gyd fynd efo'r data ac erthyglau Wicipedia. Os oes gen ti ddiddordeb mewn cymryd rhan yna [https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSdMWsWV622QB_6QvEVXFaT4BhUFbAtpA_yCMctGsSpxuRb6Yw/viewform '''cliciwch yma'''] i ddysgu mwy a chofrestri. Diolch! [[Defnyddiwr:Jason.nlw|Jason.nlw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Jason.nlw|sgwrs]]) 14:44, 27 Hydref 2020 (UTC)