Andrew Boorde: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

meddyg, fforiwr (1490-1549)
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:24, 27 Hydref 2020

Meddyg a theithiwr o Sais oedd Andrew Boorde (neu Borde; tua 1490Ebrill 1549) a ysgrifennodd sawl llyfr yn yr 16g, gan gynnwys y teithlyfr cyntaf yn yr iaith Saesneg am Ewrop.

Andrew Boorde
Ganwyd1490 Edit this on Wikidata
Sussex Edit this on Wikidata
Bu farwEbrill 1549 Edit this on Wikidata
Carchar y Fflyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, meddyg Edit this on Wikidata

Ganed yn Borde Hill ger pentref Cuckfield, Sussex. Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ac ymunodd ag urdd y Carthwsiaid yn ifanc. Penodwyd yn esgob cynorthwyol yn Chichester ym 1521, ond ym 1529 fe'i ryddhawyd o'i ddiofrydau mynachaidd, am nad oedd yn medru ymdopi â bywyd y dyn ffyddiog.[1]

Aeth ar grwydr yn Ewrop gan ymweld â phrifysgolion Orléans, Poitiers, Toulouse, Montpellier, a Wittenberg, ac ar bererindod i Rufain a Santiago de Compostela. Ym 1534 roedd yn ôl yn Lloegr yn gweithio yn feddyg yn y Charterhouse yn Llundain. Mae'n debyg i Thomas Cromwell anfon Boorde yn ôl i'r cyfandir i gasglu barnau'r Ewropeaid am bolisïau'r Brenin Harri VIII. Fodd bynnag, ym 1536 mae cofnod ohono yn astudio meddygaeth yn Glasgow.[1]

Teithiodd ar draws Ewrop eto tua 1538, ac ymwelodd â Jerwsalem hefyd. Ymsefydlodd am gyfnod ym Montpellier ac mae'n debyg iddo ddychwelyd i Loegr ym 1542. Cyhoeddodd hefyd A Dyetary of Helth (tua 1542) a Breviary (1547). Ysgrifennodd The Fyrst Boke of the Introduction of Knowledge (1548), cyfrol sydd yn cynnwys disgrifiadau o Loegr, Cymru, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Sbaen, Fflandrys, yr Almaen, Denmarc, yr Eidal, Groeg, a Jerwsalem. Cafodd ei garcharu ar ddiwedd ei oes, o bosib am lochesu puteiniaid yn ei dŷ yng Nghaerwynt. Bu farw yng Ngharchar y Fflyd yn Llundain.[2]

Yn The Fyrst Boke of the Introduction of Knowledge mae cerdd sydd yn cynnwys sawl stereoteip ffafriol ac anffafriol o'r Cymry:[3]

I Am a Welshman, and do dwel in Wales,
I haue loued to serche boudgets, & looke in males ;
I loue not to labour, nor to delue nor to dyg ;
My fyngers be lymed luke a lyme twyg ;
And wherby ryches I do not greatly set,
Syth all hys fysshe that commeth to the net.
I am a gentylman, and come of brutes blood ;
My name is, ap Ryce, ap Dauy, ap Flood.
I loue our Lady, for I am of hyr kynne ;
He that doth not loue hyr, I be-shrew his chynne.
My kyndred is ap hoby, ap Ienkin, ap goffe.
Bycause I do go barlegged, I do cach the coffe ;
And if I do go barlegged, it is for no pryde ;
I haue a gray cote, my body for to hyde.
I do loue cawse boby, good rosted chese ;
And swyshe swashe metheglyn I take for my fees ;
And yf I haue my harpe, I care for no more ;
It is my treasure, I do kepe it in store ;
For my harpe is made of a good mares skyn,
The stringes be of horse heare, it maketh a good din ;
My songe, and my voyce, and my harpe doth agree,
Muche lyke the hussyng of a homble be ;
Yet in my country I do make good pastyme,
In tellyng of prophyces whyche be not in ryme.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Britannica
  2. (Saesneg) Andrew Boorde. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Hydref 2020.
  3. F. J. Furnivall (gol.), Andrew Boorde's Introduction and Dyetary, with Barnes in the Defence of the Berde (Llundain: Early English Text Society, 1870), tt. 125–6