Barddoniaeth Lloegr yn y Rhyfel Byd Cyntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Rupert Brooke
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:"Anthem for Doomed Youth" by Wilfred Owen (English).jpg|bawd|Y gerdd "Anthem for Doomed Youth" yn llaw'r bardd, Wilfred Owen.]]
Crewyd etifeddiaeth eang o farddoniaeth ingol, drawiadol ym [[barddoniaeth Saesneg Lloegr|marddoniaeth Saesneg Lloegr]] gan brofiad milwyr yn [[y Rhyfel Byd Cyntaf]] (1914–18). Bu ambell fardd delfrydgar yn canu clodydd gwladgarol, er enghraifft [[Rupert Brooke]] yn ei linellau "''If I should die, think only this of me: / That there's some corner of a foreign field / That is for ever England''", ond ar y cyfan mynegir chwerwder a realaeth erchyll gan feirdd y [[ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf|ffosydd]], yn eu plith [[Wilfred Owen]], [[Siegfried Sassoon]], ac [[Isaac Rosenberg]].
 
Ar ddechrau'r rhyfel, ymunodd Rupert Brooke â'r [[Llynges Frenhinol]] Wirfoddol Wrth Gefn (RNVR) ac aeth yn yr alldaith i Antwerpen yn niwedd Medi 1914. Bu Brooke yn enw amlwg ymhlith cylchoedd llenyddol Lloegr ers ei ddyddiau ym Mhrifysgol Caergrawnt, pryd oedd yn gyfeillgar â sawl un o [[Grŵp Bloomsbury]]. Cyn y rhyfel, fe'i cydnabuwyd yn un o'r beirdd Sioraidd a beirdd Dymock. Ymddangosodd pum [[soned]] ganddo, y "War Sonnets", yn y gyfrol ''New Numbers'' yn nechrau 1915, ac ailgyhoeddwyd dwy ohonynt – "The Dead" a "The Soldier" – yn ''The Times Literary Supplement'' ar 11 Mawrth. Cawsant eu cymeradwyo gan y cyhoedd a chydnabuwyd Brooke fel "bardd rhyfel y genedl". Bu farw Brooke ar long yn [[y Môr Aegeaidd]] yn Ebrill 1915 o [[sepsis]] wedi iddo gael ei frathu gan fosgito ar ei ffordd i'r [[Dardanelles]]. Ym Mai, cyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth ryfel, ''1914 and Other Poems'', a ail-argraffwyd 11 o weithiau erbyn diwedd 1915.
 
== Darllen pellach ==