Defnyddiwr:Jason.nlw/Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol/Prosiectau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 57:
 
Ariannir prosiect llinell amser Bywgraffidur Cymru gan y [https://www.my-d.org/index.php/www-my-d-org/projects MY-D Foundation] in y Swistir. Rheolir y prosiect gan LlGC a datblygir y llinell amser gan Histropedia. Bydd y Llinell Amser yn defnyddio Wikidata a delweddau agored a rennir gan LlGC i ddatblygu llinell amser ddwyieithog er mwyn darganfod cynnwys y bywgraffiadur.
 
'''<big>WiciAddysg</big>'''
Roedd [[Wicipedia:WiciBrosiect Addysg|hyn yn prosiect]] gan [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]] ar y cyd gyda [[Prosiect WiciMôn|WiciMôn]]. Ariannwyd y prosiect gan [[Llywodraeth Cymru]] am cyfnod penodol rhwng Medi 2019 a Medi 2020.
 
Mae ymchwil yng Nghymru a thu hwnt wedi dangos tro ar ôl tro, bod rhan fwyaf o blant ysgol yn defnyddio Wicipedia er mwyn cyflawni gwaith cartref a gwaith cwrs. Os mae disgyblion yn ofalus, ac yn gwirio ffeithiau trwy'r cyfeiriadau a rhestrau darllen gall Wicipedia fod yn ffynhonnell ddefnyddiol iawn i'r maes addysg. Mae gan y Wicipedia Saesneg 6 miliwn erthygl gyda miloedd o wirfoddolwyr yn creu, gwella a chywiro erthyglau pob dydd.
 
Tua 130,000 o erthyglau sydd efo ni yn y Gymraeg, ond oherwydd maent ein cymuned mae llai o olygwyr ar gael i gywiro, gwella, ehangu neu greu cynnwys. Felly mae rhaid i lawer o blant ysgol trwy i'r Saesneg er mwyn dod o hyd i wybodaeth gyflawn. Yn ddelfrydol dyle bod modd i bob plentyn yng Nghymru dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Fel ymateb i'r broblem yma bu prosiect Wici Addysg yn anelu at ddechrau gwella'r sefyllfa, a sefydlu fformat ar gyfer rhedeg prosiectau tebyg yn y dyfodol. Prif dargedau'r prosiect oedd;
 
* Cydweithio efo athrawon Hanes i adnabod y 100 erthygl bwysicaf i ddisgyblion.
* Cydweithio efo athrawon i greu templed ar gyfer erthyglau sydd yn caniatáu cyflwyno gwybodaeth sydd yn addas a defnyddiol i blant Cyfnod Allweddol 2-5.
* Adnabod a defnyddio adnoddau perthnasol sydd yn bodoli'n barod, megis adnoddau dysgu CBAC, HWB a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
* Creu neu wella'r 100 erthygl a nodwyd trwy addasu testun a defnyddio gwybodaeth o'r adnoddau a nodwyd.
* Cynllunio a chreu 10 fideo byr i gyd-fynd efo'r 10 erthygl bwysicach.
* Cynllunio a chyflawni 4 digwyddiad prawf efo ysgolion uwchradd i greu cynnwys syml am elfennau o hanes lleol.*
 
'''*'''
Oherwydd '''Pandemig Covid 19''' a'r cyfyngiadau gwaith a theithio roedd rhaid i ni addasu rau elfenau o'r prosiect. Nid oedd modd i ni cyfweld ag ysgolion neu cynnal digwyddiadau efo plant trwy'r ysgolion. Felly, yn lle cynllunio a chyflawni 4 digwyddiad prawf efo ysgolion uwchradd, cwblhawyd y gwaith canlynol;
 
* Cydweithio efo pobol ifanc er mwyn creu cyfres o 7 fideo yn esbonio'r gwanhaol camau o olygu Wicipedia
* Creu 10 fideo byr ychwanegol i gydfyd efo erthyglau am bynciau Cymraeg
 
 
<br>
<br>