The Revolution Will Not Be Televised: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cerdd a chân gan [[Gil Scott-Heron]] yw " '''The Revolution Will Not Be Televised'''". Fe wnaeth Scott-Heron ei recordio gyntaf ar gyfer ei albwm o 1970 ''Small Talk at 125th and Lenox'', lle bu’n llefaru'r geiriau i gyfeiliant drymiau bongo a [[Conga|chonga]]. Fersiwn wedi'i hail-recordio, gyda band llawn, oedd ochr B sengl gyntaf Scott-Heron, "Home Is Where the Hatred Is", o'i albwm ''Pieces of a Man'' (1971). Cafodd ei chynnwys hefyd ar ei albwm, ''The Revolution Will Not Be Be Televised'' (1974). Cyhoeddwyd y rhain i gyd ar label recordio Flying Dutchman Productions.
 
Yn wreiddiol, roedd teitl y gân yn slogan poblogaidd ymhlith mudiadau [[Black Power]] yn yr Unol Daleithiau yn y 1960au. <ref>{{Cite book|first=Charles V.|last=Hamilton|first2=Kwame|last2=Ture|title=Black Power: The Politics of Liberation in America|date=1967|url=https://books.google.com/books?id=Eu2Ez9K8cQEC&pg=PT205|publisher=[[Random House]]|location=New York City|isbn=0679743138}}</ref> Mae ei geiriau naill ai'n sôn am neu'n cyfeirio at sawl cyfres deledu, sloganau hysbysebu ac eiconau adloniant a sylw newyddion sy'n enghreifftiau o'r hyn "na fydd y chwyldro" neu'r hyn ha fydd yn ei wneud. Mae'r gân yn ymateb i'r gerdd llafar "When the Revolution Comes" gan The Last Poets, o'u halbwm cyntaf eponymaidd, sy'n agor gyda'r llinell "When the revolution comes some of us will probably catch it on TV". <ref>{{Cite web|first=Abdul Malik|last=Al Nasir|title=Jalal Mansur Nuriddin: farewell to the 'grandfather of rap'|url=https://www.theguardian.com/music/2018/jun/06/jalal-mansur-nuriddin-last-poets-obituary-grandfather-of-rap|date=June 6, 2018|access-date=June 21, 2018}}</ref>
 
Fe'i cyflwynwyd i'r Gofrestrfa Recordio Genedlaethol yn 2005. <ref name="NRR5">{{Cite web|url=https://www.loc.gov/rr/record/nrpb/nrpb-2005reg.html|publisher=The Library of Congress|title=The National Recording Registry 2005|date=October 25, 2006|access-date=February 9, 2007}}</ref>